Yn ôl i Cadw’n ddiogel

Legionella

Cymryd gofal o’ch dŵr

Rhwystro a diogelwch rhag clefyd y llengfilwyr.

Beth yw clefyd y llengfilwyr?

Mae clefyd y llengfilwyr yn fath o niwmonia a all fod yn farwol, a all effeithio unrhyw un. Caiff ei achosi drwy anadlu dafnau bach iawn o ddŵr sydd â bacteria legionella ynddo.

Lle mae i’w gael?

Mae bacteria Legionella i’w ganfod mewn systemau dŵr oer a phoeth o gwmpas eich cartref. Y prif ardaloedd risg yw lle gall bacteria luosogi a chynyddu i lefelau peryglus ac yna lledaenu. Gall hyn ddigwydd mewn mannau fel pen cawod, tapiau neu bibellau eich peiriant golchi.

Rydych yn tueddu i’w weld lle mae dŵr llonydd rhwng 20ºC a 45ºC a lle mae llaid a rhwd yn bresennol.

Pwy sydd mewn perygl?

Mae clefyd y llengfilwyr yn effeithio pobl oedrannus yn bennaf, neu bobl gyda phroblemau’r frest neu’r ysgyfaint, ond gall effeithio unrhyw un. Nid yw pawb sy’n dod ar draws bacteria legionella yn mynd yn sâl, nid yw’n ymledol ac ni allwch ei ddal drwy yfed dŵr. Os ydych yn ei ddal, mae’r symptomau yn debyg i ffliw.

Sut i’w rwystro

Bydd cymryd y rhagofalon syml canlynol yn helpu i’ch cadw yn sâff:

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon dŵr drwy gawodydd a thapiau am 10 munud os nad ydych wedi eu defnyddio am sbel, efallai ar ôl bod ar wyliau neu yn yr ysbyty.
  • Cadwch bennau cawodydd a thapiau yn lân ac yn rhydd rhag calch, mowld neu algâu. Bydd defnyddio glanhawr cemegol i’w sterileiddio bob tri mis yn helpu i ladd unrhyw facteria.
  • Cadwch y dŵr poeth yn eich system boeler ar dymheredd o 60ºC neu uwch, ond byddwch yn ofalus ac yn ymwybodol o sgaldio. Os cewch unrhyw broblemau gyda’ch dŵr poeth, cysylltwch â ni.
  • Adroddwch am unrhyw waddodion megis rhwd neu ddeunydd anarferol sy’n dod o’ch tapiau neu gawodydd.

Trigolion mewn cynlluniau cyffredin

Efallai y bydd gan drigolion sy’n byw mewn cynlluniau cyffredin neu flociau fflat systemau dŵr mawr a rennir gan bawb. Er mwyn rhwystro bacteria sy’n achosi clefyd y llengfilwyr rhag hel, rydym yn monitro a phrofi tymheredd dŵr yn rheolaidd. Bydd staff a chontractwyr yn cael eu gweld yn aml mewn ystafelloedd golchi, ystafelloedd cawod ac atig yn ymgymryd a’r profion hyn i helpu i gadw trigolion yn ddiogel.

Rydym yn cwblhau asesiadau risg legionella ar bob un o’n cartrefi ac os ydych yn byw mewn tŷ neu fflat heb gyfleusterau cyffredin, mae eich cartref yn un risg isel iawn.

Rydym hefyd yn ymgymryd â phrofion rheolaidd ar lifftiau, pibellau esgynnol sych a chwistrellwyr mewn clociau a chynlluniau cyffredin, a llawer o eitemau ac addasiadau rheoleiddiol eraill.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â ni.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi