Yn ôl i Homeowners

Taliadau gwasanaeth i berchnogion tŷ

Beth yw taliadau gwasanaeth?

Mae taliad gwasanaeth yn daliad gan breswylwyr tuag at gost gwasanaethau a ddarperir y tu allan i’w heiddo. Caiff cost y gwasanaeth hwn ei rhannu rhwng yr holl breswylwyr.

Er enghraifft, mae taliadau gwasanaeth yn cynnwys pethau fel gwaith trwsio a chynnal a chadw, yswiriant, goleuadau mewn cyrtiau parcio preifat ayb. Os ydych yn byw mewn cynllun lle mae yna fan agored cymunol, mae’r tâl gwasanaeth hwn yn cynnwys y gost o dorri’r borfa a chasglu sbwriel. Mewn tai gwarchod, mae’r trigolion yn talu mwyafrif y gost o ddarparu gwasanaeth Rheolwr y Cynllun Gwarchod trwy’r tâl gwasanaeth.

Mae taliadau cyffredin eraill yn cynnwys gwres, glanhau a goleuadau mewn coridorau cymunol, gwasanaethu a thrwsio lifft mewn bloc o fflatiau a chynnal system ddiogel i ddod i mewn trwy’r drws. Rydym hefyd yn codi ffi rheoli ar ben y rhan fwyaf o daliadau gwasanaeth. Mae’r ffi hon yn talu ein costau ni wrth i ni ddod o hyd i gontractwyr i wneud y gwaith angenrheidiol a rheoli’r contractwyr sy’n gwneud y gwaith ar ein rhan.

Yr enw ar y taliadau hyn yw ‘taliadau gwasanaeth amrywiadwy’ oherwydd maen nhw’n dibynnu ar y costau sy’n codi. Nid ydym yn gwneud elw ar daliadau gwasanaeth. Yn ôl y gyfraith rhaid i ni roi gwybodaeth benodol i chi am daliadau gwasanaeth a rhaid i ni anfon ‘crynodeb o hawliau a rhwymedigaethau’ atoch mewn perthynas â thaliadau gwasanaeth, gyda’ch bil.

Sut i dalu’ch tâl gwasanaeth

Mae’n well gennym eich bod yn talu trwy Ddebyd Uniongyrchol neu archeb sefydlog.

Os ydych yn cael trafferth talu neu os oes angen cerdyn talu arnoch, dylech gysylltu â thîm Cyllid Melin ar unwaith, ar 01495 745910.

Os ydych yn gwrthod talu eich tâl gwasanaeth neu’n methu â’i dalu

Os ydych yn mynd i ddyled gyda’ch tâl gwasanaeth byddwch yn torri eich cytundeb gyda ni.

Os nad ydych wedi talu eich tâl gwasanaeth, byddwn yn anfon llythyr i’ch atgoffa. Os nad ydych wedi talu o hyd, byddwn yn anfon llythyr atgoffa terfynol atoch. Os nad ydych wedi talu o hyd, ac nid ydym wedi clywed gennych, byddwn yn cymryd camau cyfreithiol i adennill y ddyled.

Byddwn yn ceisio datrys unrhyw anghydfod gyda chi, ond os nad ydych yn hapus o hyd gallwch gyflwyno cais gerbron y Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau er mwyn asesu p’un ai fod y taliadau gwasanaeth yn rhesymol ai peidio.