Yn ôl i Cadw’n ddiogel

Amddiffyn

Mae amddiffyn yn ymwneud â diogelu hawliau oedolyn, person ifanc neu blentyn i fyw yn ddiogel, yn rhydd rhag camdriniaeth ac esgeulustra. Mae hefyd yn ymwneud â gwneud cymaint â phosib i rwystro camdriniaeth rhag digwydd drwy gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth.

Mae amddiffyn yn fater i bawb.

Arwyddion o gamdriniaeth

Mae gennym oll rôl i’w chwarae o ran sylwi os oes rywbeth o’i le. Mae’n bwysig iawn ein bod oll yn ymwybodol o’r arwyddion i chwilio amdanynt, a all awgrymu bod rhywun mewn perygl o niwed neu gamdriniaeth:

  • Anafiadau anarferol, gan gynnwys cleisiau, llosgiadau, tor-esgyrn, marciau brathu neu arwyddion o hunan-anafu.
  • Hylendid gwael yn gyson, amodau byw gwael neu ddillad amhriodol.
  • Cyfathrebu’n ymosodol neu ddefnyddio iaith rywiol.
  • Ymddangos yn gaeëdig, pryderus neu’n ofnus, yn enwedig pan fo unigolion penodol o gwmpas.
  • Clywed neu weld gweiddi, trais, neu fygythiadau.
  • Oedolion yn cadw plant, neu oedolion sydd angen cymorth, allan o’r golwg.
  • Plant heb oruchwyliaeth yn ymweld â thŷ lle ‘does ond oedolion yn byw.

Beth i’w wneud ynglŷn â chamdriniaeth

Os ydych yn cael eich cam-drin neu os ydych yn meddwl bod rhywun arall yn cael ei gam-drin, dylech ddweud wrth rywun. Peidiwch â thybio y bydd rhywun arall yn dweud, a pheidiwch â phoeni os ydych yn meddwl eich bod wedi gwneud camgymeriad – mae’n dal yn bwysig bod rhywun gyda phrofiad a chyfrifoldeb yn edrych ar y mater. Mae gan y Gwasanaethau Cymdeithasol ddyletswydd gyfreithiol i wneud hyn.

Os ydych chi neu rywun rydych yn eu hadnabod yn cael eu cam-drin ac mewn perygl ar unwaith, mae angen i chi wneud rhywbeth yn syth i’w rhwystro nhw neu eraill rhag cael eu niweidio. Dylech ffonio 999 a dweud wrth y gweithredydd beth sy’n digwydd.

Os ydych yn poeni am rywun, dylech roi gwybod i’ch cyngor lleol.

I gael rhagor o wybodaeth

Sefydlwyd y Bwrdd Amddiffyn Annibynnol Cenedlaethol dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Gallwch ddysgu mwy am y Bwrdd a’r hyn y mae’n ei wneud drwy fynd i’w wefan.

Mae gwefan Ymddiriedolaeth Ann Craft yn llawn gwybodaeth ac adnoddau.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi