Yn ôl i Cynnal a chadw

Beth yw ein cyfrifoldebau a beth yw eich cyfrifoldebau chi?

Ein cyfrifoldebau ni

Byddwn ni yn:

  • Cadw strwythur a’r tu allan i’ch cartref mewn cyflwr da.
  • Trwsio gosodiadau a ffitiadau y tu mewn i’ch cartref, fel unedau cegin, drysau, pibellau a systemau gwresogi.
  • Gwneud yn siŵr bod dŵr a thrydan yn cael eu cyflenwi yn ddiogel a bod gwastraff yn cael ei waredu yn briodol.
  • Os ydych yn byw yn un o’n fflatiau, byddwn yn cymryd gofal rhesymol i gadw mynedfeydd cyffredin, coridorau, grisiau, lifftiau, llithrenni gwastraff ac unrhyw fannau cyffredin eraill mewn cyflwr da.

Byddwn hefyd yn ymgymryd i drwsio difrod a achosir gennych chi neu unrhyw newidiadau neu wasanaethau sydd wedi eu gwneud heb awdurdod. Byddwn yn adennill y costau hyn gennych chi.

Eich cyfrifoldebau chi

Dylech gadw’r tu mewn i’ch cartref mewn cyflwr da. Gwnewch yn siŵr nad ydych chi, eich teulu nac ymwelwyr yn difrodi eich cartref, naill ai’n ddamweiniol neu’n fwriadol.

Bydd ein hadran cynnal a chadw a thrwsio yn rhoi mwy o wybodaeth i chi ar ofalu am eich cartref.

Gwaith trwsio

Gallwn wneud gwaith trwsio brys a gwaith arferol a bod ar gael i wneud gwaith mewn argyfwng.

Rydym yn deall y bydd rhai trigolion angen mwy o gymorth gyda gwaith trwsio nad yw'n gyfrifoldeb i Melin. Os na allwch chi na’ch teulu wneud y gwaith trwsio eich hun cysylltwch â ni a byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad gyda rhywun a all eich helpu.

Gwneud newidiadau i’ch cartref

Bydd unrhyw waith sy’n golygu newidiadau ffisegol i strwythur, gosodion neu ffitiadau’r eiddo yn gofyn am eich caniatâd ni. Byddwn hefyd angen caniatâd ar gyfer adeiladau gardd ac eithrio sied a ddarperir gan Melin.

Pethau eraill a fydd angen ein caniatâd

  • Gosod dysgl lloeren
  • Addurno tu allan
  • Gosod ffensys neu waliau terfyn a gatiau
  • Gosod patio
  • Adeiladu modurdy
  • Gosod sied neu dŷ gwydr
  • Decio pren neu ddeunydd arall
  • Adeiladu neu drosi atig neu lofft

Rhai pethau nad ydynt angen ein caniatâd

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Gosod mesurydd dŵr
  • Gwaith bach yn yr ardd, cyn belled â nad oes gwaith trydanol, newidiadau strwythurol neu ddefnyddio dŵr
  • Addurno gyda gorchuddion meddal fel llenni neu fleindiau
  • Carpedi, finyl neu laminad ar y llawr. (Cofiwch y bydd angen i chi drefnu i addasu’r drysau os na fyddant yn cau gan nad ydyn ni yn darparu’r gwasanaeth yma)
  • Newid bylbiau golau, plygiau bath, llenni cawod neu seddau toiled
  • Gosod nwyddau gwyn, megis sychwr dillad, cyn belled â bod y gwasanaethau yn barod eisoes
  • Gosod llinell ffôn BT neu deledu cebl.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi