Yn ôl i Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Os oes gennych gamera cylch cyfyng neu gamera ar gloch eich drws

A oes gennych gamera cylch cyfyng neu gamera ar gloch drws eich cartref?

Dyma’r hyn sydd angen i chi ei wybod i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r Canllawiau gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

Os ydych chi’n ystyried cael un

Os ydych chi’n ystyried defnyddio camerâu yn eich eiddo, dylech chi feddwl am y cwestiynau canlynol:

  • A oes wir angen teledu cylch cyfyng arnaf?
  • A oes pethau eraill y gallwn i eu gwneud i amddiffyn fy nghartref, fel goleuadau gwell?
  • A allaf leoli’r camerâu i osgoi ymyrryd ar eiddo fy nghymydog neu unrhyw fannau a rennir neu fannau cyhoeddus?

Os ydych chi’n penderfynu defnyddio system teledu cylch cyfyng, dylech chi sicrhau eich bod chi’n parchu preifatrwydd pobl eraill a cheisio cipio delweddau o fewn ffin eich cartref yn unig (gan gynnwys eich gardd).

Os oes camera gennych

Os yw’ch system yn cipio delweddau o bobl y tu allan i ffin eich cartref bydd angen i chi:

  • Gadael i bobl wybod eich bod chi’n defnyddio teledu cylch cyfyng trwy osod arwyddion yn dweud bod recordio yn digwydd, a pham.
  • Gwneud yn siŵr nad ydych chi’n cipio mwy o luniau nag sydd eu hangen arnoch chi.

Os ydych chi’n methu â chydymffurfio â’ch rhwymedigaethau o dan y ddeddf diogelu data, efallai y byddwch chi’n destun camau gorfodi gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Gallai hyn gynnwys dirwy. Gwybodaeth wedi’i chymryd o wefan ‘ICO’

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi