Yn ôl i Preswylydd

Help gyda gwaith a hyfforddiant

Cyngor cyflogaeth

Mae gyda ni dîm ymroddedig a gwybodus sydd yma i helpu ein trigolion i gyd i gael gwaith a hyfforddiant. Rydym yn gwybod pa mor bwysig i chi a’ch teulu yw cael hyd i swydd gywir a pha wahaniaeth sy’n dod yn sgil cael bywyd gwaith boddhaus.

Rydym yn awyddus i glywed gan drigolion sydd am ddod yn ôl i’r gwaith neu sydd am gael mwy o oriau neu gyflog gwell mewn gyrfa newydd. Byddwn yn eich cefnogi bob cam.

Gall y Tîm Cyflogaeth gynorthwyo gydag amrywiaeth eang o wasanaethau, gan gynnwys help gyda:

  • Chwilio a cheisio am swyddi;
  • Ysgrifennu CV;
  • Hyfforddiant;
  • Gwirfoddoli;
  • Lleoliadau gwaith;
  • Technegau cyfweliad;
  • Datblygu hyder;
  • Newid gyrfa;
  • Cael hyd i a mynychu cyrsiau a chael trwyddedau, fel cymhwyster SIA a fforch godi;
  • Cael budd-daliadau mewn gwaith;
  • Gofyn am oriau hyblyg neu lai/mwy o oriau;
  • Diweithdra;
  • Cymorth gwaith, fel dillad gwaith a chostau teithio.

Po fwyaf cynnar y cysylltwch, mwyaf cynnar y byddwn yn gallu eich helpu.

Y Prentis

Wedi ei leoli gyda Chartrefi Melin, cynllun prentisiaethau ym maes adeiladwaith sy’n gweithredu ledled y De Ddwyrain yw Y Prentis. Fe’i hariennir gan Fwrdd Hyfforddiant y Diwydiant Adeiladwaith (CITB) a Llywodraeth Cymru, ac maen nhw’n cyflogi prentisiaid mewn nifer o grefftau adeiladwaith er mwyn bodloni anghenion y diwydiant adeiladwaith.

Mae gan Y Prentis gyfleoedd am brentisiaethau mewn nifer o arbenigaethau trwy gydol y flwyddyn mewn mannau gwahanol yn y rhanbarth.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi

Cyngor Ariannol

Ym Melin, rydym yn ymroddedig i gefnogi’n trigolion ym mhob rhan o’u bywydau. Mae rhan fawr o hyn yn golygu helpu trigolion gyda materion ariannol.

Darllenwch fwy