Yn ôl i Symud i Melin

Cydgyfnewid

Llun dwylo dau berson yn cyfnewid allweddi tŷ

Os ydych eisoes yn byw gyda ni neu Gymdeithas Tai arall ond yn ystyried symud, tybed ai cydgyfnewid yw’r ateb.

Beth yw cydgyfnewid?

Cydgyfnewid yw pan fydd dau o drigolion cymdeithas tai yn penderfynu cyfnewid cartrefi.

Mae’n bosibl i denant gydgyfnewid dan yr amodau a ganlyn yn unig:

  • Byddwch wedi cwblhau blwyddyn gyntaf eich tenantiaeth.
  • Nid oes gennych ôl-ddyledion rhent.
  • Nid ydych wedi torri amodau eich cytundeb tenantiaeth

Mae’n bwysig, cyn y gellir cydgyfnewid, bod y ddau barti dan sylw wedi gofyn am ganiatâd eu landlord cymdeithasol yn gyntaf.

HomeSwapper

HomeSwapper yw 'r gwasanaeth cydgyfnewid cenedlaethol mwyaf i drigolion sydd am gyfnewid eu cartref yn lleol a chenedlaethol! Mae’n hawdd ei ddefnyddio, gallwch lawr lwytho’r ap ar eich ffôn symudol neu rhoi clic ar wefan HomeSwapper.