Yn ôl i Cynnal a chadw

Trwsio toiled neu sinc sydd wedi blocio

Mae un o'r galwadau mwyaf cyffredin rydyn ni'n eu derbyn yn ymwneud â thrwsio toiledau a sinciau sydd wedi blocio. Yn yr un modd ag atgyweiriadau lefel isel eraill, gofynnwn i drigolion rhoi cynnig ar bethau yn gyntaf i ddatrys y broblem eu hunain cyn i ni ymweld â chi. Isod, rydym wedi amlinellu rhai camau syml y gallwch eu dilyn i geisio trwsio toiled neu sinc sydd wedi blocio.

Llun teclyn sugno (plunger)

Toiledau wedi blocio

Gall toiledau flocio am sawl rheswm. Yr achos mwyaf cyffredin yw naill ai mae gormod o wastraff/papur wedi'i roi yn y tŷ bach, neu, mae rhywbeth wedi'i roi yn y tŷ bach na ddylai fod yno. Isod, rydym wedi amlinellu rhai gwahanol ddulliau i atgyweirio toiledau y gallwch roi cynnig arnynt eich hun:

Dadflocio’r toiled heb offer

Os gallwch weld beth rydych chi'n ei amau sy'n achosi'r rhwystr, yna dylech allu ei glirio â llaw:

  1. Tynnwch unrhyw ddilledyn sydd â breichiau hirion a gwisgwch bâr o fenig rwber, hir.
  2. Tynnwch allan beth bynnag sy’n achosi’r rhwystr.
  3. Fflysiwch y toiled i weld a yw’r rhwystr wedi mynd.
  4. Wrth estyn i mewn i’r toiled, gallwch ddal bag plastig, gafael yn y rhwystr a'i droi o chwith gan gadw’r rhwystr y tu mewn i’r bag.
  5. Gwenwch yn siŵr eich bod yn golchi’ch llaw a’ch braich wedi gwneud hynny er mwyn osgoi lledaenu germau.
Defnyddio dŵr poeth a hylif golchi llestri

Gall y dull hwn weithio os yw lefel y dŵr yn eich toiled yn isel. Ni fydd yn gweithio mewn sefyllfa lle nad yw dŵr yn draenio ac mae’r lefel yn uchel:

  1. Gwisgwch bâr o fenig rwber.
  2. Caewch y cyflenwad dŵr yn y falf (i'r ochr neu o dan y sistern).
  3. Arllwys rhywfaint o hylif golchi llestri (tua 50ml) yn uniongyrchol i fowlen y toiled.
  4. Arhoswch 10 munud.
  5. Arllwyswch 2-3 litr o ddŵr poeth (ond heb ferwi) yn ofalus i'r bowlen yn gyflym iawn, i roi pwysau yn erbyn y rhwystr, yna arhoswch ychydig funudau.
  6. Os nad yw lefel y dŵr yn disgyn a bod digon o le y tu mewn i'r bowlen, gwnewch yr un peth eto.
  7. Os yw’r rhwystr dal i fod yno, ewch ati i ddefnyddio teclyn sugno (plunger) (manylion isod).
  8. Cofiwch droi’r cyflenwad dŵr ymlaen ar ôl i chi orffen y dasg.

Defnyddio teclyn sugno (plunger)

Os nad yw'r camau uchod yn gweithio (neu mewn sefyllfa lle mae lefel y dŵr yn y tŷ bach yn uchel), dylech geisio tynnu'r rhwystr gyda theclyn sugno:

  1. Mae’r dull hwn yn gweithio’n well gyda phowlen sy’n weddol lawn, nid un gwag.
  2. Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio teclyn sugno pwrpasol ar gyfer toiled (mae’r ymyl wedi ei wneud yn arbennig greu sêl ar bibell wastraff y toiled). Gallwch ei brynu o siop nwyddau haearn, ar-lein, neu mewn rhyw archfarchnad fawr.
  3. Pwysig: Gwnewch yn siŵr eich bod yn gorchuddio'r allfa bibell wastraff yn llwyr gydag ymyl y teclyn sugno fel na all aer na dŵr fynd heibio. Os oes bylchau, gallwch ddefnyddio rhyw hen glytiau i'w plygio.
  4. Gwthiwch i lawr yn araf ac yna tynnu i fyny. Dechreuwch yn araf ac ysgafn – nid ydych am wthio’r rhwystr yn bellach i lawr.
  5. Yn raddol, gwthiwch yn galetach tan i’r dŵr dechrau clirio.
  6. Ychwanegwch mwy o ddŵr i’r bowlen a bod angen, yna ailadroddwch.
  7. Tynnwch y teclyn sugno allan a fflysio’r toiled i weld a yw’r llif wedi dychwelyd i’r arfer.
  8. Os oes gennych fwy o brofiad, ac os nad yw teclyn sugno yn gweithio, gallwch hefyd geisio defnyddio ‘neidr’ plymwr. Fe gewch un o siop nwyddau haearn.

Os nad yw un o'r camau uchod wedi gweithio, gallwn drefnu atgyweiriad. Sylwch, os yw'r rhwystr wedi digwydd am fod rhywun wedi camddefnyddio'r toiled, er enghraifft rhoi eitemau heblaw papur tŷ bach a gwastraff ynddo, efallai y byddwch yn atebol am dalu am y gwaith atgyweirio.

Sinciau wedi blocio

Mae sinciau sydd wedi blocio yn broblem arall y gallwn ddod ar eu traws yn y cartref. Pan fydd eich sinc wediblocio, efallai y byddwch yn cael eich temtio i brynu cynhyrchion glanhau cemegol llym a drud, ond gallwch fodyn fwy caredig i'r amgylchedd ac arbed arian drwy ddilyn rhai o'r awgrymiadau hyn.

Defnyddio dŵr berwedig

Gall hyn fod yn un o'r ffyrdd rhataf a mwyaf syml o glirio sinc a phibellau wedi'u blocio:

  1. Gwenwch yn siŵr fod lefel y dŵr yn y sinc mor isel â phosibl. Dylech dynnu cymaint o ddŵr ag y medrwch am na fydd y dull hwn yn gweithio os bydd y dŵr berw’n oeri cyn cyrraedd y draeniau a’r pibellau.
  2. Ewch ati i ferwi tegell o ddŵr.
  3. Ar ôl i’r dŵr ferwi, arllwyswch y tegell cyfan o ddŵr i mewn i’r sinc. Byddwch yn ofalus i beidio â sblasio’r dŵr a llosgi’ch hun.
  4. Arhoswch i weld a yw’r rhwystr yn clirio.
  5. Os nad yw’r gweithio y tro cyntaf, gwagiwch y dŵr o’r sinc a rhoi cynnig arall arni. Mae’n werth trio hyn sawl gwaith eto.
Defnyddio soda pobi a finegr

Bydd gan lawer ohonom y cynhwysion hyn yn ein cartref yn barod, felly gallwch roi cynnig ar y dull hwn:

  1. Fel yr uchod, sicrhewch fod cymaint o ddŵr â phosib yn cael ei dynnu o'r sinc.
  2. Rhowch 3-4 llwy fwrdd o soda pobi i mewn i’r (neu ar) dwll y plwg. Ychwanegwch lond mwg o finegr gwyn iddo a’i adael am 10 munud.
  3. Ewch ati i ferwi’r tegell ac ar ôl gwneud hynny, arllwyswch y dŵr i gyd i lawr twll y plwg. Os bydd hyn yn gweithio, dylai glirio’r rhwystr ochr yn ochr â’r finegr a’r soda pobi.
  4. Beth am ailadrodd y dull hwn sawl gwaith eto.
  5. Gallwch hefyd ychwanegu halen i’r soda pobi (swm tebyg) i greu adwaith cryfach. Gallwch hefyd drio ei adael yn y sinc am gyfnod hirach cyn ychwanegu’r dŵr berw.
Defnyddio teclyn sugno

Yn yr un modd â thoiled sydd wedi blocio, efallai y bydd angen i chi ddefnyddio teclyn sugno i gael gwared ar y rhwystr y mae’n anodd cael gwared arno:

  1. Os oes gennych sinc dwbl, seliwch yr ail ochr. Gallwch wneud hyn gyda chlwtyn gwlyb neu blwg.
  2. Llenwch y sinc â dŵr poeth i tua hanner ffordd a than iddo greu sêl o amgylch dwll y plwg.
  3. Rhowch y teclyn sugno dros dwll y plwg gan sicrhau eich bod yn ei selio’n dda.
  4. Dechreuwch bwmpio’r teclyn i fyny ac i lawr yn gyflym, yna tynnu’r teclyn ac aros.
  5. Os yw peth o’r dŵr (neu’r dŵr i gyd) yn dechrau draenio, mae hyn yn golygu bod y sinc wedi ei ddadflocio. Unwaith y bydd y dŵr wedi draenio, dylech fflysio’r sinc â dŵr poeth a’i olchi.
  6. Os na fydd hyn yn gweithio i ddechrau, daliwch ati a byddwch mor rymus ag y medrwch gyda’r teclyn.
  7. Yn yr un modd â’r toiled, gallwch hefyd ddefnyddio ‘neidr’ plymwr i glirio draen sinc sydd wedi blocio.

Os nad yw un o'r camau uchod wedi gweithio i chi, gallwn drefnu atgyweiriad. Sylwch, os yw'r rhwystr wedi digwydd am fod rhywun wedi camddefnyddio'r sinc, er enghraifft rhoi plastig neu fonau sigaréts ynddo, efallai y byddwch yn atebol am dalu am y gwaith atgyweirio.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi

Archebu atgyweiriad

Os nad yw unrhyw rhai o’r camau uchod wedi helpu i ddatrys eich problem, cysylltwch â ni i drefnu atgyweiriad. Pan fyddwch yn cysylltu â ni byddwn yn gofyn a ydych chi wedi trio’r camau uchod.

Cael gwybod sut i archebu