Yn ôl i Amdanon Ni

Caffaeliad

Mae ein tîm Caffael yn eistedd yn yr adran Arloesi a Diwylliant ac mae'n gyfrifol am hwyluso caffael nwyddau a gwasanaethau ar draws y sefydliad. Rydym hefyd yn ymdrin â meysydd sydd yn galw am arbenigedd allweddol fel cynaladwyedd, buddion cymunedol, rheolaeth amgylcheddol a'n prosiect arloesol ar gyfer ysgolion.

Fel tîm rydym am ysbrydoli a gyrru newid cynaliadwy gyda phawb yr ydym yn gweithio gyda nhw, yn ogystal â thrwy ein sefydliad - felly rydym wedi ymgorffori cynaliadwyedd yn ein prosesau a'n cysylltiadau caffael.

Rydym yn tendro am waith ar raddfa fechan trwy restr o bartneriaid y mae'n ofynnol iddynt fodloni'r meini prawf gofynnol, os oes gennych ddiddordeb mewn cael eich cynnwys, a fyddech cystal ag anfon e-bost. Mae contractau mwy yn cael eu hysbysebu ar borth Gwerthu i Gymru, felly gwnewch yn siŵr bod eich busnes wedi cofrestru, a’ch bod yn diweddaru eich manylion cyswllt. Byddwn ni’n helpu hefyd trwy hysbysu busnesau yng Nghymru yn benodol ynghylch unrhyw gyfleoedd a allai fod o ddiddordeb fel na fyddwch yn colli allan ar y cyfle i wneud cais.