Yn ôl i Cadw’n ddiogel

Asbestos

Beth yw asbestos?

Mae asbestos yn ffibr naturiol a oedd yn cael ei ddefnyddio’n eang yn y diwydiant adeiladu a diwydiannau eraill tan ddiwedd y 1990au.

Mae’n ofyniad cyfreithiol i ni eich hysbysu bod nifer fechan o’n cartref yn cynnwys asbestos. Ni ddylai hyn achosi pryder, gan ei bod yn berffaith ddiogel byw mewn cartref gydag asbestos os nad oes unrhyw beth yn ymyrryd arno.

Gwneud newidiadau i’ch cartref

Pan fyddwn yn gwneud newidiadau neu waith trwsio yn eich cartref, rydym yn gallu gweld y cofnodion asbestos. Byddwn yn cymryd y rhagofalon angenrheidiol i sicrhau eich bod chi a’n staff yn cael eu diogelu.

Mae eich Contract Meddiannaeth yn ei gwneud yn glir bod methu â dweud wrthym am unrhyw waith rydych yn ei wneud i’ch cartref yn golygu mai chi sy’n gyfrifol am gost y gwaith. Gellir hefyd gofyn i chi dalu i ddadwneud y gwaith os ydych wedi ei wneud heb i ni gael gwybod a heb ein caniatâd.

Os ydych yn bwriadu gwneud unrhyw newidiadau, cysylltwch â ni cyn i chi ddechrau ar unrhyw waith.

Rydym yn gofyn i chi wneud hyn oherwydd gallech ymyrryd yn ddamweiniol ag asbestos, a fyddai fel arall yn ddiogel.

Addurno eich cartref

Os ydych yn bwriadu addurno eich cartref, mae’n beth da cysylltu â ni a gofyn am gyngor, gan y byddwn yn gallu dweud wrthych os bydd eich cynlluniau yn ymyrryd ag unrhyw asbestos yn eich cartref, er mor annhebygol yw hyn.

Beth i’w wneud os bydd deunydd sy’n cynnwys asbestos yn cael ei niweidio

Cysylltwch â’n Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01495 745910.

Peidiwch â cheisio trwsio neu sgubo unrhyw wastraff eich hun. Gall defnyddio sugnwr llwch neu frws sgubo godi ffibrau asbestos i’r aer.

Nid yw deunyddiau sy’n cynnwys asbestos nad ydynt wedi eu niweidio ac mewn cyflwr da yn beryglus, ac yn gwbl ddiogel.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi