Yn ôl i Homeowners

Ymgynghori â chi

Cytundebau tymor hir

Bydd Melin yn ymgynghori â chi os byddwn yn mynd i gytundeb tymor hir ar gyfer pethau fel torri gwair neu wasanaethau glanhau. Bydd y cytundebau yma’n para mwy na 12 mis a bydden nhw’n costio dros £100 y flwyddyn i chi.

Gwaith mawr

Byddwn yn ymgynghori â chi cyn dechrau ar unrhyw waith mawr, gwaith cynnal a chadw neu welliannau y mae gofyn i chi gyfrannu tuag atynt. Os bydd y gwaith yn costio mwy na £250 i unrhyw un fflat yn eich bloc, byddwn yn ymgynghori â chi.

Mae’n rhaid i Melin gael o leiaf dau amcangyfrif neu ddyfynbris ar gyfer y gwaith, ac mae'n rhaid i un fod gan gontractwr allanol. Byddwch yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig yn cynnwys manyleb (neu grynodeb) o’r gwaith, ynghyd ag amcangyfrif o’r costau.

Mae’n rhaid i’r hysbysiad ofyn am eich sylwadau ysgrifenedig erbyn dyddiad penodol, o leiaf un mis ar ôl diwrnod cyflwyno’r hysbysiad. Mae’n rhaid i Melin ystyried eich barn cyn gwneud y gwaith, ond byddwn ni’n gwneud y penderfyniad terfy nol. Ni all y gwaith ddechrau cyn i’r cyfnod ymgynghori o un mis dod i ben, oni bai bod y gwaith yn waith brys.

Os byddwn yn methu ag ymgynghori â chi

Os yw Melin yn methu ag ymgynghori â chi’n ffurfiol yn y modd uchod, nid oes modd codi tâl am unrhyw swm sy’n fwy na £250.

Mewn argyfwng, neu os oes amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth Melin, efallai na fyddwn yn gallu ymgynghori’n ffurfiol â chi ynglŷn â’r gwaith, ond byddwn yn ymdrechu i roi gwybod i chi am y gost. Mae’n rhaid i gamau Melin fod yn rhesymol ac yn gymesur ac mae modd eu herio mewn Tribiwnlys Prisio Prydlesi os byddwch yn teimlo nad ydym ni wedi gweithredu mewn ffordd gywir.

Mae’n rhaid i’r gwaith gael ei wneud i safon resymol. Os ydych chi’n anfodlon â safon y gwaith, dylech gysylltu â Melin tra bod y gwaith yn cael ei wneud neu cyn gynted ag y bydd wedi ei gwblhau.