Yn ôl i Preswylydd

Addewid Melin

Rydym yma i greu cyfleoedd i bobl a chymunedau gael ffynnu. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd bodloni anghenion a disgwyliadau ein cwsmeriaid a byddwn yn gweithredu i sicrhau bod pob cyswllt â Melin yn gadarnhaol.

Dydyn ni ddim am fod yna unrhyw syndod pan fo cwsmeriaid yn defnyddio’n gwasanaethau. Dyna pam, trwy weithio gyda thrigolion a rhanddeiliaid eraill, rydym wedi datblygu cyfres o safonau sy’n esbonio’n eglur yr hyn y gall ein cwsmeriaid ddisgwyl gennym; a’r hyn yr ydym ni’n disgwyl ganddyn nhw.

Parchu’n staff

Mae ein tîm wedi eu hyfforddi i wrando arnoch chi ac ymateb mewn ffordd amyneddgar, gwrtais a chyfeillgar. Byddwch yn gwrtais ac yn barchus tuag at ein staff os gwelwch yn dda, maen nhw’n gweithio’n galed i’ch helpu. Peidiwch â defnyddio iaith ddifrïol wrth ddelio â’n staff neu gontractwyr os gwelwch yn dda. Ni fyddwn yn derbyn bygythiadau na thrais yn erbyn unrhyw staff neu gontractwyr.

Byddwn yn cymryd camau, os bydd digwyddiadau o’r fath. Byddwn yn gwneud ein gorau i ddatrys unrhyw heriau sy’n eich wynebu a, ble nad yw hyn yn bosibl, byddwn yn cymryd amser i esbonio pam ac yn ceisio cael hyd i ateb sy’n gweithio i bawb.

Yr hyn y byddwn yn gwneud i chi

Pan fyddwch chi’n cysylltu â ni:

  • Byddwn yn ymateb yn brydlon.
  • Rydym yn eich cyfarch ac yn dweud ein henw wrthych.
  • Rydym yn cymryd cyfrifoldeb personol am ddatrys eich ymholiad.
  • Rydym yn defnyddio iaith bob dydd sy’n rhydd o jargon.
  • Byddwn yn darparu gwasanaeth cyfieithu i chi os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf.
  • Os byddai well gyda chi gyfathrebu’n Gymraeg â ni, rhowch wybod i ni.
  • Os na allwn ni ateb yn llawn yn syth, byddwn yn esbonio pam ac yn rhoi gwybod i chi faint o amser bydd yn cymryd.
  • Byddwn yn cadw i roi gwybodaeth i chi ac yn gosod disgwyliadau clir o’r hyn y gallwn gyflenwi.

Yr hyn allwch chi wneud i ni

Pob tro rydych chi’n cysylltu â ni, rydym am i’r profiad fod yn dda, ond rydym hefyd yn gofyn i chi:

  • Drin ein staff â chwrteisi, parch ac urddas.
  • Cadw unrhyw apwyntiad sydd gennych gyda ni neu roi gwybod i ni os na allwch chi ddod i apwyntiad, ac fe wnawn ni weithio gyda chi i drefnu un gwahanol.
  • Rhoi’r wybodaeth y mae ei hangen arnom ni i’ch helpu chi.
  • Rhoi eich barn a’ch awgrymiadau i’n helpu i wella ein gwasanaethau.

Os byddwn yn ymweld â’ch cartref

  • Byddwn yn ceisio rhoi o leiaf 48 awr o rybudd o’n hymweliad.
  • Byddwn yn cytuno ar apwyntiad gyda chi ar gyfer y bore neu’r prynhawn.
  • Byddwn yn gwisgo bathodyn â llun sy’n dweud wrthym pwy ydym ni.
  • Byddwn yn ffonio cyn ein hymweliad i ddweud ein bod ni ar y ffordd.
  • Os nad ydych chi gartref, byddwn yn gadael cerdyn.

Ein Tîm Cyswllt Cwsmeriaid

Tîm Cyswllt Cwsmeriaid Melin fydd y bobl gyntaf a fydd yn helpu pan fyddwch chi’n cysylltu â ni. Mae’r tîm yn delio â’n holl:

  • Negeseuon cyfryngau cymdeithasol
  • Llythyron
  • E-bost
  • Negeseuon sgwrs byw
  • Negeseuon WhatsApp
  • Sgyrsiau ffôn

Eu bwriad yw delio ag o leiaf 80% o’ch ymholiadau wrth y pwynt cyswllt cyntaf. Os na allan nhw ddelio â’ch ymholiad, dylech dderbyn cydnabyddiaeth o’r adran sydd ag angen edrych arno o fewn 48 awr.

Rydym yn ceisio datrys unrhyw broblemau’n anffurfiol. Serch hynny, os na allwn ni wneud hyn, mae gennym broses ffurfiol ble fyddwn yn edrych ar eich pryderon.

Pryd rydym yn bwriadu gwneud eich atgyweiriadau

Mae dau ddosbarth i atgyweiriadau i’ch cartref:

Argyfwng
: Mae atgyweiriad argyfwng yn broblem sy’n debygol o achosi perygl i iechyd neu niwed difrifol i’ch cartref, er enghraifft llifogydd, methiant trydanol neu fethiant llwyr system gwres canolog mewn tywydd oer iawn (Hydref tan Fawrth). Byddwn yn gwneud pethau’n ddiogel yr un diwrnod ac yna’n gwneud unrhyw waith pellach yn ystod oriau gwaith arferol.

Cyffredin: Mae atgyweiriad cyffredin yn rhywbeth nad yw’n debygol o achosi niwed i’ch cartref neu effeithio ar eich iechyd, er enghraifft cwteri wedi eu blocio neu atgyweiriadau yn y gegin. Ein bwriad yw cwblhau atgyweiriadau cyffredin o fewn 28 diwrnod.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi

Cysylltu

Mae yna gymaint o ffyrdd o gysylltu â’n Tîm Cyswllt Cwsmeriaid, beth bynnag sydd orau i chi.

Dysgwch fwy

Gwneud cwyn

Os ydych chi’n teimlo nad ydyn ni wedi cadw at ein gair, gallwch wneud cwyn a bydd tîm penodol yn ystyried y mater

Dysgwch sut