Yn ôl i Eich cartref

Gwella ac addurno’r cartref

Darlun o rholer yn paentio wal

Gwneud newidiadau i’ch cartref

Bydd unrhyw waith sy’n golygu newidiadau ffisegol i strwythur, gosodiadau neu ffitiadau’r eiddo angen ein caniatâd ni.

Pethau eraill sydd angen cymeradwyaeth gennym ni

  • Gosod dysgl lloeren os yw i’w rhoi ar y tu allan ar floc o ddau neu fwy o fflatiau, ac os oes un eisoes wedi ei gosod (gan fod Cynllunio Awdurdod Lleol ond yn caniatáu un ar gyfer yr adeilad, ond dim mwy);
  • Addurno’r tu allan;
  • Gosod ffensys neu furiau terfyn a gatiau;
  • Gosod patio;
  • Adeiladu modurdy;
  • Gosod sied neu dŷ gwydr;
  • Decin pren neu ddecin arall.

Newidiadau nad oes angen cymeradwyaeth

Mae rhai pethau nad ydyn nhw angen caniatâd gennym ni. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Gosod mesurydd dŵr.
  • Gwaith gardd graddfa fach, cyn belled â nad oes gwaith trydanol, newidiadau strwythurol neu ddefnyddio dŵr.
  • Addurno neu ddodrefn meddal megis llenni neu fleindiau.

Mae croeso i chi wneud eich eiddo yn gartref i chi eich hun drwy beintio, gosod papur wal neu ychwanegu dodrefn meddal. Efallai bod asbestos yn rhai o’n cartrefi hŷn, nad yw’n niweidiol os nad oes unrhyw beth yn aflonyddu arno.

Os ydych yn penderfynu addurno

Os ydych yn addurno, gwnewch yn siŵr:

  • Eich bod yn gwlychu unrhyw bapur wal cyn ei dynnu. Os oes modd, defnyddiwch beiriant ager ac yna tynnu’r papur yn ofalus cyn ail-addurno.
  • Peidiwch â drilio, sandio, lifio neu aflonyddu ar unrhyw ddeunyddiau sy’n cynnwys asbestos sydd mewn cyflwr da.
  • Peidiwch â gwneud unrhyw waith DIY ar unrhyw ran o’ch cartref a allai gynnwys asbestos. Gofynnwch am gyngor gennym ni yn gyntaf.
  • Peidiwch â cheisio tynnu wynebau gweadog (Artex) oddi ar waliau neu nenfydau. Golchwch unrhyw fannau lle mae paent yn plicio cyn ail-beintio.
  • Carpedi, finyl neu loriau laminad. Peidiwch â cheisio codi hen deils llawr neu leino. Gadewch nhw lle maen nhw a gosod gorchudd newydd ar eu pen.
    (Cofiwch y bydd angen trefnu bod drysau’n cael eu haddasu os na fyddant yn cau, gan nad ydyn ni’n darparu’r gwasanaeth yma.)
  • Newid bylbiau golau, plygiau bath, llenni cawod neu seddau toiled.
  • Gosod nwyddau gwyn, megis peiriant sychu dillad, cyn belled â bod cysylltiad gyda’r gwasanaethau yno eisoes.
  • Gosod llinell ffôn BT neu deledu cebl.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi