Yn ôl i Symud i Melin

Prynu

Llun pâr o finocwlars gyda logo Homebuy, Melin

Mae ein tîm Homebuy yna ym Melin yn arbenigwyr sy’n helpu pobl i gael eu troed ar yr ysgol eiddo.

Homebuy - Dewis Eich Hun (DEH) (Torfaen yn unig)

Mae'r opsiwn hwn yn eich helpu i brynu eiddo o'ch dewis ar y farchnad agored trwy werthwr tai. Mae cynllun Homebuy yn bennaf yn helpu pobl sy’n prynu am y tro cyntaf, er efallai y byddant yn gallu helpu os ydych yn ailymuno â’r farchnad eiddo.

Bydd angen i chi allu ariannu 70% o'r pris prynu a bydd Llywodraeth Cymru yn darparu’r 30% arall. Nid oes rhent na rhandaliadau i'w talu ar y 30% a fenthycwyd; Mae'n cael ei ad-dalu yn y dyfodol pan fyddwch chi'n dewis gwerthu.

I wneud cais bydd angen i chi gofrestru ar Help2Own ac ar ôl i chi gael eich derbyn ar y cynllun, cysylltir â chi pan fydd cyfleoedd a chyllid ar gael. Byddwch yn derbyn cymeradwyaeth i chwilio am dŷ o fewn cyllideb benodol yn seiliedig ar eich gallu i’w fforddio, lleoliad yr eiddo a maint eich teulu.

Homebuy i’r Rheini Sydd Am Adeiladu eu Cartref eu Hunain

Mae'r opsiwn hwn yn eich helpu i brynu eiddo newydd trwy gynllun perchentyaeth cost isel (LCHO). Darperir hyn ar sail ecwiti a rennir, gyda'r canran ecwiti yn amrywio yn ôl y lleoliad a’r math o eiddo.

Bydd angen i chi allu ariannu'ch cyfran ecwiti drwy gael morgais, a blaendal o 5%. Bydd gweddill y pris prynu yn cael ei ariannu drwy Melin. Nid oes rhent na rhandaliadau i'w talu ar fenthyciad gan Melin; caiff ei ad-dalu yn y dyfodol pan fyddwch yn dewis gwerthu (nid oes terfynau amser).

Mae cynllun Homebuy yn bennaf yn helpu’r rheini sy’n prynu am y tro cyntaf er efallai y byddant yn gallu helpu os ydych yn ailymuno â’r farchnad eiddo.

I wneud cais, bydd angen i chi gofrestru gyda’r Awdurdod Lleol (gweler y rhestr isod) yn yr ardal yr ydych yn dymuno prynu cartref. Bydd angen profi fod gennych gyswllt lleol. Unwaith y cewch eich derbyn ar y cynllun, cysylltir â chi pan fydd cyfleoedd a chyllid ar gael.

Ailwerthu

Er mwyn sicrhau bod cyflenwad parhaus o gartrefi fforddiadwy ar gael mae’n ofynnol i berchennog, pan fydd yn dymuno gwerthu ei eiddo Homebuy, gynnig yr eiddo y mae’n ei werthu i’r rhestr aros gyfredol. Mae hyn yn dileu'r angen i dalu ffioedd asiantaeth tai ac yn cynnig yr eiddo am brys sefydlog i gronfa o bobl sy’n aros i brynu.

Mae’r fath ddull yn golygu y gall gwerthwyr symud ymlaen a rhoi cyfle i’r rheini sy’n prynu am y tro cyntaf, gael troed ar yr ysgol a’r gallu i fforddio’r eiddo’n well.

Cysylltu â thîm Homebuy Melin

Os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw rhai o’r opsiynau i berchen ar gartref (DEH, cartrefi newydd a chartrefi sy’n cael eu hailwerthu) anfonwch e-bost i homes@melinhomes.co.uk neu ffoniwch 01495 745911.

Hoffwn ddiolch i chi a’ch cydweithwyr am eich holl help a’ch cefnogaeth wrth i mi brynu fy nhŷ. Rwyf wrth fy modd â’r tŷ newydd, er bod fy mywyd i gyd dal i fod mewn bocsys cardbord!

Peter — Perchennog cartref newydd

Y print bach

Gall eiddo a chyllid newid, felly'r peth gorau yw cysylltu â Thîm Homebuy a’ch Awdurdod Lleol i weld y cynigion diweddaraf.

Bydd pob cyfle yn cael ei gynnig i ymgeiswyr sydd wedi cofrestru ar gofrestr tai fforddiadwy Awdurdodau Lleol a byddant hefyd yn cael eu hysbysebu ar dudalen Facebook Homebuy Melin.

Bydd ad-dalu’r benthyciad ecwiti yn seiliedig ar werth yr eiddo ar y farchnad ar yr adeg ad-dalu.

Mae benthycwyr morgeisi posib yn cynnwys Halifax, Nationwide, Lloyds, TSB a The Leeds. Bydd benthycwyr morgeisi yn disgwyl bod gennych flaendal o 5% yn seiliedig ar werth llawn yr eiddo ar y farchnad. Argymhellwn eich bod yn ceisio cyngor ariannol annibynnol.

Mae eich cartref mewn perygl os na fyddwch yn talu’r ad-daliadau ar y morgais neu’r benthyciad wedi’i warantu.