Yn ôl i Symud i Melin

Gwneud cais i rentu cartref

Llun o dŷ gydag arwydd sy'n dweud ‘i’w osod’

Ynglŷn â'n cartrefi

Rydym yn cadw ein cartrefi mewn cyflwr da ac yn darparu gwasanaethau rhagorol i'ch helpu i fyw'n gyfforddus yn eich cartref a'ch cymuned. Mae gennym ystod eang o eiddo ledled De-ddwyrain Cymru sy'n cynnwys tai sydd â dwy, tair a phedair ystafell wely, yn ogystal â fflatiau a byngalos.

Mae gennym hefyd fflatiau mewn cynlluniau gwarchod o amgylch y rhanbarth. Maent wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer pobl 55 oed neu hŷn.

Sut i wneud cais

Ni allwch wneud cais am eiddo drwom ni yn uniongyrchol. Mae ein holl eiddo'n cael eu hysbysebu, a gellir gwneud cais amdanynt drwy gofrestr tai leol eich cyngor.

Mae'r manylion ar gyfer y gofrestr tai ym mhob ardal wedi'u cynnwys isod. Pan fyddwch wedi cofrestru gyda'u rhestr tai byddwch yn gallu gweld y rhestr o eiddo sydd ar gael ar hyn o bryd a gwneud cais am unrhyw un sydd o ddiddordeb i chi.

Rhestr fer

Bydd y cyngor yn anfon rhestr fer o bobl sy'n addas ar gyfer yr eiddo, draw at ein Tîm Tai, yna byddwn yn dechrau cysylltu â phobl ar y rhestr fer i drefnu iddynt weld yr eiddo.

Yn anffodus, ni allwn ddweud wrthych ba mor hir y bydd angen i chi aros cyn i ni gysylltu â chi.

Mae proses rhestr fer pob cyngor fymryn yn wahanol ac weithiau gall gymryd mwy o amser i'r rhestr fer gael ei hanfon atom.

Nid ydym yn rheoli'r broses o lunio rhestr fer. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses hon neu ble ydych chi ar y rhestr fer, cysylltwch â'ch cofrestr tai leol ar y manylion uchod.

HomeSwapper

Os ydych eisoes yn byw gyda ni neu Gymdeithas Tai arall, ond yn ystyried symud i rywbeth gwahanol, mae gwasanaeth cyfnewid cenedlaethol lle gallwch ddod o hyd i denantiaid eraill mewn sefyllfa debyg. I fod yn gymwys ar gyfer hyn, bydd angen i chi gofrestru ar wefan HomeSwapper.

Ar ôl i chi gofrestru, byddwch yn gallu pori'r eiddo sydd ar gael i'w cyfnewid, a gallwch hyd yn oed drefnu ymweliad pan fyddwch yn dod o hyd i eiddo sy’n addas.

Cartrefi yr ydym wedi eu rhentu yn ddiweddar

Mae gennym restr o gartrefi yr ydym wedi'u dyrannu yn ystod y misoedd diwethaf, yn dangos y math/nifer o ystafelloedd gwely/ardal a band. Nid oes unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei gynnwys.