Beth yw cyfrifoldeb Melin?
Dysgwch beth yw cyfrifoldeb Melin a’ch cyfrifoldeb chi o ran cadw eich cartref mewn cyflwr da.
Gwaith trwsio argyfwng (y tu allan i oriau swyddfa): Os ydych angen gwaith trwsio ar frys y tu allan i oriau swyddfa neu dros gyfnod gwyliau, dylech ffonio 01495 745910 a phwyso opsiwn 2.
Cyffredin: Mae gwaith trwsio cyffredin yn rhywbeth nad yw’n debygol o achosi unrhyw ddifrod i’ch cartref nac effeithio eich iechyd – gallai fod yn rhywbeth fel gwteri wedi blocio neu waith trwsio yn y gegin. Byddwn yn cwblhau gwaith trwsio cyffredin o fewn 28 diwrnod.
Rhowch wybod i ni am waith trwsio cyn gynted ag y bo modd os gwelwch yn dda. Mae nifer o ffyrdd o adael i ni wybod a bwcio gwaith trwsio.
Mewn argyfwng yn unig – y tu allan i oriau swyddfa arferol, ar benwythnos a Gwyliau Banc, ffoniwch 01495 745910 a phwyso opsiwn 2. (Bydd tâl yn cael ei godi arnoch am unrhyw alwad allan nad yw’n wir argyfwng).
Pan fyddwn wedi gwneud y gwaith trwsio, byddwn yn anfon holiadur Boddhad Gwaith Trwsio atoch i weld os ydych yn fodlon. Cymerwch yr amser i gwblhau hwn – mae’n ein helpu ni i wella’r gwasanaethau a ddarperir gennym.
Dysgwch beth yw cyfrifoldeb Melin a’ch cyfrifoldeb chi o ran cadw eich cartref mewn cyflwr da.
Gall ddifrod ddigwydd mewn gwahanol ffyrdd. Dysgwch beth i’ wneud os achosir y difrod gennych chi neu gan rywun arall.