Yn ôl i Rhent, arian a biliau

Talu rhent

Darlun o wefan

Talu eich rhent yw un o’ch prif gyfrifoldebau i ni. Rydym yn sefydliad nid-er-elw a’ch rhent chi yw ein prif ffynhonnell o incwm. Mae’r arian rydym yn ei gael yn bennaf yn mynd yn ôl i gynnal a chadw eich cartref a chartrefi eraill rydym yn eu rheoli, ond mae hefyd yn ein helpu i adeiladu mwy o gartrefi fforddiadwy i bobl yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Gwneir taliadau rhent ymlaen llaw, yn wythnosol ar ddydd Llun. Dylai fod gennych un wythnos o gredyd llawn bob amser ar eich cyfrif rhent. Os ydych yn dewis talu bob mis, bydd angen i chi dalu mis ymlaen llaw.

Dyma sut i dalu rhent a thaliadau gwasanaeth:

Llinell dalu 24 awr

Mae’n ffordd gyflym a hawdd o dalu eich rhent a’r unig beth rydych ei angen yw rhif cyfeirio eich tenantiaeth a cherdyn debyd neu gredyd.

Ffoniwch 01495 745910 a dewiswch opsiwn 1

Debyd Uniongyrchol

Mae’n un o’r ffyrdd hawddaf o dalu biliau. Unwaith y byddwch wedi ei drefnu gallwch anghofio amdano a bydd eich rhent yn cael ei dalu heb i chi orfod cofio pryd mae’n ddyledus bob wythnos neu fis.

Byddwn yn cymryd y swm a gytunwyd yn uniongyrchol o’ch cyfrif banc. Os bydd y swm yn newid, byddwn yn rhoi tri diwrnod o rybudd i chi cyn y mae i’w gymryd.

Gallwch ddewis talu bob wythnos – sy’n daladwy ar ddydd Gwener – neu bob mis ar ddiwrnod o’ch dewis.

Os hoffech drefnu Debyd Uniongyrchol, cysylltwch â’n tîm incwm drwy ffonio 01495 745910.

Mewngofnodi i’ch cyfrif

Mae eich cyfrif arlein hefyd yn ffenestr ddefnyddiol i bob agwedd ar eich tenantiaeth, o waith trwsio a wnaed ac y gofynnwyd amdano ar eich cartref i’r wybodaeth ddiweddaraf ar eich cyfrif rhent.

Pan fyddwch yn cofrestru, byddwch angen eich cyfeiriad ebost a rhif cyfeirio eich tenantiaeth wrth law.

Archeb sefydlog

Mae hwn yn drefniant a wneir gyda’ch banc, er mwyn iddyn nhw dalu eich rhent yn uniongyrchol i’n cyfrif banc ni.

Gallwch drefnu archeb sefydlog drwy:

  • fynd i’ch banc
  • ffonio eich banc
  • defnyddio ap bancio, neu
  • wrth fancio arlein.

Byddwch angen ein manylion banc ni a rhif cyfeirio eich tenantiaeth, er mwyn i ni allu adnabod eich taliad.

Cod didoli: 20-18-58
Rhif cyfrif: 20099120

Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi rhif cyfeirio eich tenantiaeth neu ni fyddwn yn gwybod pwy sydd wedi talu eu rhent. Os nad ydych yn siŵr beth yw rhif cyfeirio eich tenantiaeth, cysylltwch â ni a gallwn eich helpu.

allpay

Gallwch fynd i’ch Swyddfa Bost leol neu fan PayPoint – chwiliwch am yr arwyddion PayPoint ac allpay.

Drwy siarad gydag un o’n cynghorwyr

Gallwn gymryd taliad dros y ffôn pan fyddwch yn siarad ag aelod o’n tîm Incwm.

Rydym yn anfon dolen drwy ebost neu neges testun tra byddwch ar y ffôn. Drwy glicio ar y ddolen gallwch nodi manylion eich banc a chlicio ‘Talu’. Bydd ein Swyddog Incwm wedyn yn cael ebost yn dweud bod y taliad wedi ei wneud.

Ffoniwch ni ar 01495 745910 i siarad ag un o’n Swyddogion Incwm

I drefnu eich dull talu

Bydd eich Swyddog Cymdogaeth neu un o’n Cynghorwyr Incwm yn gallu eich helpu i drefnu’r dull talu sydd orau gennych.

Os ydych yn cael trafferth i dalu eich rhent, gofynnwch i ni sut y gallwn helpu.

Newidiadau i rent a datganiadau rhent

Rydym yn anfon datganiadau chwarterol i chi (bob tri mis) a fydd yn dangos y taliadau rhent rydych wedi eu gwneud. Peidiwch ag anghofio y gallwch hefyd weld y datganiad arlein drwy fewngofnodi i’ch cyfrif.

Rydym yn rhoi un mis o rybudd i chi o unrhyw newidiadau mewn rhent ac yn eich hysbysu bob mis Ionawr / Chwefror bob blwyddyn.

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol, nodwch eich taliad rhent newydd yn eich dyddlyfr ar y diwrnod pan fydd y newid yn digwydd.

Darlun o ffenestr yn cael ei glanhau

Taliadau gwasanaeth

Bydd angen i chi dalu tâl gwasanaeth os ydym yn darparu gwasanaethau i chi ar gyfer cynnal a chadw mannau cyffredin, fel garddio, glanhau ffenestri, systemau mynediad drws a lifftiau. Mae manylion y gwasanaethau a’r taliadau sy’n berthnasol i’ch eiddo chi wedi eu rhestru yn eich cytundeb tenantiaeth. Bob blwyddyn, byddwn yn anfon nodyn atgoffa gyda’ch taliadau gwasanaeth, gan gynnwys manylion unrhyw daliadau.

Os oes gennych unrhyw bryderon am ddyledion, mae cyngor annibynnol am ddim i’w gael gan y Llinell Ddyled Genedlaethol ar 0808 808 4000. Fel arall, gallwch gysylltu gyda’n tîm Incwm a Chynhwysiant ar 01495 745910.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi