Yn ôl i Rhent, arian a biliau

Credyd Cynhwysol

An illustration of a calculator

Beth yw Credyd Cynhwysol?

Mae Credyd Cynhwysol yn un taliad misol sengl i bobl mewn gwaith neu allan o waith. Mae wedi disodli chwe budd-dal: Lwfans Ceisio Swydd, Lwfans Cymorth a Chyflogaeth, Cymorth Incwm, Credyd Treth Plant, Credyd Treth Gwaith a Budd-dal Tai.

Sut allai weld os ydw i’n gymwys i gael Credyd Cynhwysol?

Gallwch weld pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio, gan gynnwys Credyd Cynhwysol, drwy ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau arlein. Mae gan yr elusen genedlaethol, Turn2Us, gyfrifiannell budd-daliadau ar ei gwefan y gallwch ei defnyddio.

Sut allai hawlio Credyd Cynhwysol?

I wneud cais am Gredyd Cynhwysol, ewch i wefan Credyd Cynhwysol Llywodraeth y DU.

Rydym yn gofyn i drigolion Melin gysylltu gyda ni cyn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol. Mae hyn yn caniatáu i’n cynghorwyr arbenigol eich helpu gyda’ch cais i wneud yn siŵr eich bod yn derbyn yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.

Pa wybodaeth ydw i ei hangen i wneud cais am Gredyd Cynhwysol?

Byddwch angen yr wybodaeth ganlynol er mwyn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol:

  • Eich rhif Yswiriant Gwladol a rhif Yswiriant Gwladol eich partner.
  • Eich cod post
  • Eich cyfeiriad ebost (ni allwch hawlio heb un)
  • Eich rhif ffôn (llinell tŷ neu ffôn symudol)
  • Cyfeiriad Cartrefi Melin: Cartrefi Melin, Tŷ’r Felin, Lower Mill Fields, Pont-y-pŵl, Torfaen NP4 0XJ
  • Eich rhent (cysylltwch â ni os nad ydych yn siŵr o’r union swm)
  • Dyddiad cychwyn eich tenantiaeth
  • Manylion unrhyw blant/ perthnasau/pobl eraill sy’n byw gyda chi, gan gynnwys eu henw, dyddiad geni, eu perthynas gyda chi a’u hincwm
  • Manylion unrhyw gynilion
  • Manylion unrhyw arian arall rydych yn ei dderbyn
  • Enw a chyfeiriad eich banc, rhif eich cyfrif a’r cod didoli.

Sut allai reoli fy nghais a derbyn fy mudd-daliadau?

Mae pob cais am Gredyd Cynhwysol yn cael ei reoli drwy borth arlein. Gellir talu Credyd Cynhwysol i gyfrif banc neu Undeb Credyd. Bydd angen i chi drefnu cyfrif er mwyn cael Credyd Cynhwysol. Telir y budd-dal unwaith y mis a gall gymryd pump i chwe wythnos i dderbyn eich taliad cyntaf.

A yw Credyd Cynhwysol yn cynnwys help tuag ar gost y Dreth Gyngor?

Na, ond gallwch wneud cais ar wahân i’ch Awdurdod Lleol i gael cymorth gyda’r Dreth Gyngor.

Beth all effeithio fy hawl i Gredyd Cynhwysol?

Mae nifer o bethau a allai effeithio eich hawl i Gredyd Cynhwysol. Os bydd eich amgylchiadau yn newid mewn unrhyw un o’r ffyrdd isod, dylech gysylltu gyda’r adran lle rydych yn hawlio Credyd Cynhwysol ar unwaith.

Gall newidiadau mewn amgylchiadau gynnwys:

  • Newid mewn oriau gwaith
  • Profedigaeth
  • Wedi eich cael yn ffit i weithio felly mae Lwfans Cymorth a Chyflogaeth yn dod i ben
  • Perthynas yn cychwyn neu’n gorffen
  • Colli swydd
  • Genedigaeth plentyn
  • Plentyn ieuengaf yn dod yn bump oed
  • Dod yn ofalwr
  • Gwneud cais newydd am Fudd-dal Tai
  • Symud o ardal un Awdurdod Lleol i un arall

A allwch chi fy helpu gyda fy nghais presennol am Gredyd Cynhwysol?

Gallwn. Rydym yn awyddus i glywed gan drigolion sydd eisiau help gyda Chredyd Cynhwysol. Gall ein harbenigwyr cynghori gynnig ystod o gyngor i chi, a gwybodaeth a chyfarwyddyd ar fudd-daliadau, cyllid, cyflogadwyedd a lles.

You may find these pages helpful