Yn ôl i Eich cartref

Yswirio eich pethau

Darlun o soffa

Yr hyn rydym yn ei argymell

Tra bod yswiriant adeiladau yn bodoli eisoes ar gyfer eich cartref, rydym yn argymell eich bod yn trefnu yswiriant i ddiogelu eich eiddo.

Mae llawer o gwmnïau sy’n cynnig yswiriant cynnwys, a gallwch gymharu prisiau ar wefan cymharu prisiau. Nid ydym yn argymell unrhyw gwmnïau yswiriant penodol ond mae rhai yn cynnig Yswiriant Cynnwys Tenantiaid, fel Thistle’s My Home Insurance.

Gellir defnyddio’r ffurflen isod i ofyn am alwad yn ôl ar yswiriant cynnwys cartref My Home a ddarperir gan Thistle Tenant Risks, y darparwr yswiriant sydd orau gan Melin ar gyfer cynnwys tŷ. Bydd ffurflenni wedi eu cwblhau yn cael eu hanfon yn uniongyrchol i My Home a dylid anfon pob ymholiad ar eu gwasanaethau yn uniongyrchol atyn nhw.

Gall Melin ond gyfeirio trigolion at My Home ond ni all argymell eu cynhyrchion nhw yn benodol na chynhyrchion unrhyw gwmni gwasanaethau ariannol arall. Cynghorir trigolion i gymharu prisiau ar gyfer yswiriant cynnwys tŷ neu ddefnyddio cynghorydd ariannol annibynnol os ydynt eisiau cyngor annibynnol ar ba opsiynau yswiriant sydd orau iddyn nhw.

Ar ôl i chi gwblhau’r ffurflen hon, bydd eich data yn cael ei thrin gan Thistle Tenant Risks a gallwch copi o’u Polisi Preifatrwydd ar eu gwefan.

(Nodwch y bydd y cysylltiad gyda Thistle yn Saesneg)

Bydd yr wybodaeth a nodwch ar y ffurflen yn cael ei defnyddio er mwyn i Melin wneud atgyfeiriad i’ch galw yn ôl i drafod y cynllun, Drwy roi eich gwybodaeth ar y ffurflen hon, rydych yn rhoi caniatâd i ni basio’r wybodaeth ymlaen i Thistle Tenant Risks.

Ffurflen atgyfeirio

The information you provide on this form will be used for Melin to make a referral for a call back to discuss the scheme. By submitting your information on this form you are giving us permission to pass it on to Thistle Tenant Risks.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi