Yn ôl i Amdanon Ni

Uwch Reolwyr

Mae ein tîm Uwch Reoli yn gyfrifol am reolaeth weithredol a strategol Melin o ddydd i ddydd. Maen nhw’n rhoi arweinyddiaeth i’r sefydliad, gan gefnogi ein staff a’r amgylchedd gwaith i lwyddo yn ein nodau a’n hamcanion.

Paula Kennedy

Prif Weithredwr

Mae Paula wedi gweithio mewn tai cymdeithasol ers dros 30 mlynedd, gyda 16 o’r rhain yng Nghymru.

Fe’i penodwyd yn Brif Weithredwr yn 2017, ac mae’n dod â digonedd o wybodaeth o’i rolau blaenorol gyda Brunel Care a Herefordshire Housing.

Llun o Paula Kennedy
Paula Kennedy

Peter Crockett

Dirprwy Brif Weithredwr a Rheolwr Gyfarwyddwr Candleston Homes

Mae Peter wedi bod mewn swyddi uwch reolwr yn y sector cymdeithasau tai ers 1995 ble cafodd brofiad sylweddol ym mhob agwedd ar weithgareddau masnachol, gan gynnwys cyllid strategol, benthyciadau, datblygiad a phob gwasanaeth cynorthwyol arall.

Llun o Peter Crockett
Peter Crockett

Adrian Huckin

Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfarwyddwr Cwmni Y Prentis

Ymunodd Adrian â Chartrefi Melin ym Medi 2010 ar ôl gweithio o’r blaen yn y sectorau cyhoeddus a Chymdeithasau Tai.

Mae e wedi gweithio yn y sector tai ers 1982, gyda swyddi uwch rheoli yng Nghynghorau Casnewydd a Thorfaen a Thai Cymunedol Bron Afon.

Llun o Adrian Huckin
Adrian Huckin

Joanne Kirrane

Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl, Cartrefi a Chymunedau

Mae gyrfa Joanne wedi bod mewn iechyd, tai a gofal cymdeithasol, mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn cydweithio ar draws sectorau ac mae hi wedi gweithio i Gartrefi Melin ers 2013.

Llun o Joanne Kirrane
Joanne Kirrane

Justin Wigmore

Cyfarwyddwr Tai

Mae Justin wedi gweithio mewn tai cymdeithasol ers 1997 ac mae ganddo brofiad o weithio i Awdurdod Lleol a Chymdeithasau Tai.

Llun o Justin Wigmore
Justin Wigmore

Sharon Crockett

Cyfarwyddwr Asedau

Mae Sharon wedi gweithio yn y sector tai cymdeithasol ers 2001 ac yn llywodraeth leol cyn hynny. Gyda chefndir mewn cyllid ac angerdd dros bobl, mae ei phrofiad amrywiol a’i gwybodaeth yn ei galluogi i yrru arloesi trwy ein prosesau busnes a pharhau i wella diwylliant anhygoel Melin.

Llun o Sharon Crockett
Sharon Crockett

Gerrard Williams

Cyfarwyddwr Datblygiad

Mae Gerrard yn Syrfëwr Siartredig ac mae wedi gweithio mewn datblygiad ers 1987, ac mae wedi gweithio yn y sector tai ers 2010. Roedd gynt yn Gyfarwyddwr Datblygiad yn Hereford Futures Ltd a, chyn hynny, yn Rheolwr Masnachol ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd.

Llun o Gerrard Williams
Gerrard Williams

Tom Broadhead

Cyfarwyddwr Cefnogaeth Busnes ac Ysgrifennydd y Cwmni

Mae Tom wedi gweithio mewn tai cymdeithasol ers 2000 mewn amrywiaeth o rolau. Mae ganddo rolau amrywiol hefyd gyda CIH Cymru, Cylchgrawn Welsh Housing Quarterly, bwrdd Cymdeithas Tai Merthyr Tudful a Thyfu Tai Cymru.

Llun o Tom Broadhead
Tom Broadhead

Elizabeth Howard

Cyfarwyddwr Cyllid

Mae Elizabeth wedi gweithio mewn tai cymdeithasol ers 2005, ar ôl dechrau ei gyrfa ariannol mewn ymgynghoriaeth TG yng Nghaerdydd.

Llun o Elizabeth Howard
Elizabeth Howard

Lyndon Griffiths

Cyfarwyddwr Tir Grŵp

Mae Lyndon yn syrfëwr datblygiad/tir profiadol sydd wedi gweithio yn y sector tai cymdeithasol ers dros 25 mlynedd. Mae ei rôl bresennol for Cyfarwyddwr Tir gyda Candleston a Chartrefi Melin yn cynnwys hwyluso caffael tir a chydlynu pob cyfle datblygiad newydd ar ran y grŵp.

Llun o Lyndon Griffiths
Lyndon Griffiths

Scott Rooks

Cyfarwyddwr Masnachol Candleston

Mae Scott yn Syrfëwr Meintiau Siartredig ac mae wedi gweithio yn y diwydiant adeiladu ers 2002, ar ôl dechrau ei yrfa gydag ymgynghoriaeth adeiladwaith yng ngogledd Lloegr, symudodd y Gymru yn 2007 ac ymunodd â Candleston yn 2018.

Llun o Scott Rooks
Scott Rooks