Yn ôl i Rhent, arian a biliau

Y Dreth Gyngor

Darlun o gyfrifiannell a thŷ

Beth yw’r Dreth Gyngor?

Codir y Dreth Gyngor gan eich Awdurdod Lleol i gyfrannu at wasanaethau sy’n cael eu darparu ganddyn nhw, fel casglu gwastraff a llyfrgelloedd lleol. Mae faint rydych yn ei dalu yn dibynnu ar ble rydych yn byw a gwerth eich cartref.

Oes raid i chi dalu’r Dreth Gyngor?

Mae angen i bawb sydd dros 18 oed ac sydd berchen ar neu’n rhentu eich cartref dalu’r Dreth Gyngor. Os ydych yn byw ar eich pen eich hyn, mae gennych hawl i gael disgownt o 25% ar eich bil Treth Gyngor.

Mae rhai pobl nad ydynt yn cyfrif fel oedolion ar gyfer y Dreth Gyngor, sef:

  • Plant dan 18 oed;
  • Pobl ar rai cynlluniau prentisiaeth;
  • Rhai sy’n 18 a 19 oed mewn addysg lawn-amser;
  • Myfyrwyr llawn-amser mewn colegau a phrifysgolion;
  • Pobl ifanc dan 25 oed sy’n cael cyllid gan yr Asiantaeth Ariannu Sgiliau neu Asiantaeth Ddysgu Pobl Ifanc;
  • Nyrs-fyfyrwyr;
  • Cynorthwywyr iaith dramor sydd wedi eu cofrestru gyda’r Cyngor Prydeinig;
  • Pobl gydag anallu meddyliol difrifol;
  • Gofalwyr sy’n byw i mewn, sy’n gofalu am rywun nad yw’n bartner neu gymar iddynt, neu blentyn dan 18 oed.

Os nad oes unrhyw un ar yr aelwyd yn cyfrif fel oedolyn, yna bydd eich bil Treth Gyngor yn cael ei ostwng 50%. Nid oes angen i aelwydydd yn cynnwys myfyrwyr llawn-amser dalu unrhyw Dreth Gyngor.

Os nad ydych yn siŵr os oes angen i chi dalu’r Dreth Gyngor neu os gallwch dderbyn gostyngiad, cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol.

Cofiwch: rhaid i bob aelwyd sefydlu cyfrif Treth Gyngor gyda’u Hawdurdod Lleol, hyd yn oed os nad oes angen iddyn nhw dalu’r Dreth Gyngor. Nid yw’r Awdurdod Lleol yn gwybod am eich amgylchiadau yn awtomatig, felly mae’n bwysig cysylltu gyda nhw pan fyddwch yn symud tŷ, neu pan fydd eich amgylchiadau yn newid.

Mwy o wybodaeth

Sut i gael gwybodaeth gan eich Awdurdod Lleol

Rydym wedi darparu dolennau uniongyrchol i dudalennau Treth Gyngor pob cyngor. Chwiliwch am yr Awdurdod Lleol lle rydych yn byw isod.

Sut i dalu’r Dreth Gyngor

Mae nifer o ffyrdd gwahanol i dalu’r Dreth Gyngor. Mae’r rhain yn cynnwys Debyd Uniongyrchol, trosglwyddiad banc, siec neu yn swyddfa ariannol yr Awdurdod Lleol. Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol i gael rhagor o wybodaeth.

Os na allwch fforddio talu’r Dreth Gyngor

Mae’n bwysig iawn ein bod oll yn talu’r Dreth Gyngor gywir. Mae methu a thalu yn drosedd ac mae pobl wedi cael dedfryd o garchar am beidio â thalu.

Os ydych yn cael anhawster i dalu’r Dreth Gyngor neu os ydych yn credu y dylech gael disgownt neu eithriad, yna cysylltwch â Chyngor Melin a gallwn rhoi cymorth pellach i chi.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi