Yn ôl i Eich cartref

Symud i mewn

An illustration of some moving boxes and a plant

Rydym yn gwerthfawrogi y gall fod yn straen symud i mewn i gartref newydd. Dyma restr ddefnyddiol i wneud y broses yn haws.

  • Cysylltwch â’ch cyflenwyr nwy, dŵr a thrydan i drefnu neu newid eich cyfrifon cyfleustodau.
  • Cymerwch ddarlleniadau mesurydd cyn gynted ag y byddwch yn symud i mewn.
  • Cysylltwch â’ch cyngor lleol i drefnu neu newid taliadau’r Dreth Gyngor ac i ychwanegu eich aelwyd i’r gofrestr etholiadol.
  • Os ydych yn derbyn budd-dal tai neu Gredyd Cynhwysol peidiwch ag anghofio diweddaru eich cyfrifon gyda’ch cyfeiriad newydd a manylion talu rhent.
  • Canfyddwch lle mae eich tap cau dŵr, blwch ffiwsys a swits tripio (cysylltwch â’ch swyddog tai os ydych angen help).
  • Trefnwch yswiriant cynnwys ar gyfer eich eiddo personol. Mae yna yswiriant adeiladau eisoes ar gyfer eich cartref.
  • Ailgyfeiriwch eich post o’ch hen gyfeiriad. (Gweler isod i gael rhagor o wybodaeth.)
  • Trefnwch drwydded teledu os oes angen.
  • Cofiwch ddweud wrth eich meddyg, deintydd, banc, cyflogwr, ysgol a’r DVLA am eich cyfeiriad newydd.
  • Os ydych yn cael gosod ffôn, gadewch i ni wybod eich rhif.

Biliau

Bydd eich nwy, trydan a dŵr wedi eu cysylltu pan fyddwch yn symud i mewn. Byddwn yn rhoi’r darlleniadau mesurydd i chi, a byddwch angen y rhain pan fyddwch yn siarad gyda’ch cyflenwyr ynni.

Gwastraff

Os oes gennych lawer o wastraff ar ôl symud i mewn, byddwch angen trefnu casgliad gwastraff swmpus neu fynd ag o i’r domen leol (edrychwch ar ein tudalen ‘Biniau ac ailgylchu’ i weld manylion eich cyngor lleol).

Ailgyfeirio post

Mae’r Post Brenhinol yn cynnig gwasanaeth ailgyfeirio, fel bod eich post yn symud gyda chi. Gallwch ailgyfeirio eich post i unrhyw gyfeiriad yn y DU neu dramor am dri, chwech neu 12 mis am £33.99.

I drefnu ailgyfeirio byddwch angen

  • Enwau a dyddiadau geni pawb ar yr aelwyd sydd angen cael ailgyfeirio eu post, a
  • Chyfeiriad a chod post eich hen gartref a’ch cartref newydd.

Dodrefnu eich cartref

Rydym oll yn ceisio chwarae ein rhan i ofalu am ein planed. Pan fyddwch yn chwilio am ddodrefn newydd i’ch cartref, mae gan siopau elusen lleol a Facebook Marketplace eitemau da iawn o ddodrefn ar gael.

Rydym yn gweithio’n agos gyda nifer o sefydliadau sy’n cynnig dodrefn yn rhatach. Os ydych yn cael trafferthion cysylltwch â ni a fe welwn beth allwn ei wneud i helpu.

Rhent a materion ariannol

Talu eich rhent yw un o’ch prif gyfrifoldebau i ni. Rydym yn sefydliad ddim-er-elw a’ch rhent chi yw ein prif ffynhonnell o incwm. Mae’r arian yn bennaf yn mynd yn ôl i gynnal a chadw eich cartref chi a chartrefi eraill rydym yn eu rheoli, ond mae hefyd yn ein helpu i adeiladu mwy o dai fforddiadwy i bobl yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Telir rhent ymlaen llaw, yn wythnosol ar ddydd Llun. Dylai fod gennych un wythnos lawn o gredyd bob amser ar eich cyfrif rhent. Os ydych yn dewis talu’n fisol, bydd angen i chi dalu mis ymlaen llaw.

Newidiadau a datganiadau rhent

Rydym yn anfon datganiadau chwarterol i chi (bob tri mis) a fydd yn dangos y taliadau rhent rydych wedi eu gwneud. Peidiwch ag anghofio, gallwch hefyd weld eich datganiad arlein drwy fewngofnodi i’ch cyfrif.

Rydym yn rhoi mis o rybudd i chi am unrhyw newidiadau mewn rhent ac yn eich hysbysu ym mis Ionawr/Chwefror bob blwyddyn.

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol, gwnewch nodyn o’ch rhent newydd yn eich dyddlyfr ar y diwrnod y mae’r newid yn digwydd.

Taliadau gwasanaeth

Bydd angen i chi dalu tâl gwasanaeth os ydym yn darparu gwasanaeth i chi ar gyfer cynnal a chadw mannau cyffredin, fel garddio, glanhau ffenestri, systemau mynediad drws a lifftiau. Mae manylion y gwasanaethau a’r taliadau perthnasol wedi eu rhestru yn eich cytundeb tenantiaeth. Bob blwyddyn, byddwn yn anfon nodyn i’ch atgoffa o’ch taliadau gwasanaeth, gan gynnwys manylion unrhyw daliadau.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi