Yn ôl i Amdanon Ni

Byw’n Annibynnol

Mae ein tîm Byw’n Annibynnol yn rheoli nifer o gartrefi ledled Torfaen, Sir Fynwy, Casnewydd, Blaenau Gwent a de Powys.

Mae’r rhain i bobl sengl a chyplau 55 oed a throsodd, i’r rheiny ag anghenion gofal iechyd parhaus, neu i drigolion sydd ag angen am rywfaint o gefnogaeth ychwanegol. Mae gyda ni hefyd tri chynllun gofal ychwanegol wedi eu cynllunio i ddiwallu anghenion cyfnewidiol gofal a chefnogaeth trigolion.

Mae fflatiau, stiwdios a byngalos Byw’n Annibynnol yn ddelfrydol i’r rheiny sy’n chwilio am amgylchedd sydd wedi ei addasu at eu hanghenion unigol ond sydd hefyd eisiau cadw eu hannibyniaeth.

Profiad Lianne, ein Cydlynydd Byw’n Annibynnol

“Fi yw’r Cydlynydd Byw’n Annibynnol yn Nhŷ George Lansbury yng Nghroesyceiliog. Rwyf wedi rheoli’r cynllun yma ar ran Melin am y pedair blynedd a hanner diwethaf. Gan ei fod yn gynllun gofal ychwanegol, rwy’n gweithio’n agos gyda’r darparwr gofal ar y safle, Radis.

“Mae fy nhasgau dydd i ddydd yn cynnwys galwadau boreol – galw heibio i’r trigolion, edrych ar ôl yr adeilad, gwneud gwiriadau diogelwch a dweud am unrhyw atgyweiriadau, cynnal ymweliadau cyn tenantiaeth, ymweliadau cynllun, delio gydag unrhyw broblemau o ran rheoli tenantiaethau a gwneud te a choffi!”

Uchafbwynt fy swydd, mae’n siŵr, yw trefnu gweithgareddau a gweld y trigolion yn mwynhau eu hunain o ganlyniad i fy ngwaith.

Lianne Goodall, Cydlynydd Byw’n Annibynnol — Cartrefi Melin

Mae Liz, un o’n Rheolwyr Cynllun yn dweud am ei swydd

“Rydw i’n gyfrifol am osod cartrefi a monitro a mynd i’r afael â materion mewn perthynas â chynnal tenantiaethau’n gyffredinol. Rwy’n gweithio gydag asiantaethau eraill i sicrhau bod ein trigolion yn aros mor annibynnol â phosibl yn eu cartrefi, mae’r asiantaethau yma’n cynnwys y gwasanaethau cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol, y gwasanaethau tân a chysylltwyr cymunedol ymhlith eraill.

“Rwy’ hefyd yn gweithio’n agos gyda’r trigolion, ein Tîm Cymunedau a rheolwyr cynlluniau eraill i hyrwyddo cyfranogiad trigolion mewn digwyddiadau cymunedol a gynhelir yn y cynllun ac sy’n helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd.“

Un o’r pethau rydw i’n caru am fy swydd yw gweld y gwahaniaeth y gallwch chi wneud i fywyd rhywun trwy sicrhau bod gyda nhw’r gefnogaeth gywir os oes ei hangen a’u helpu nhw i aros mor annibynnol â phosibl yn eu cartrefi a’r gwahaniaeth mae hyn y gwneud i’w lles

Liz Hughes, Rheolwr Cynllun Byw’n Annibynnol — Cartrefi Melin

Yr hyn mae ein trigolion yn dweud

Pan gyrhaeddais i yma’n gyntaf, doedd fy ngŵr ddim yn siŵr am symud ond roedd y trigolion mor gymdogol a chyfeillgar, dywedodd e y dylem ni fod wedi symud yma ynghynt.

Jean

Mae gwybod bod rhywun yno ac nad ydych chi ar eich pen eich hun yn gysur. Pan oeddem ni’n meddwl am symud, dywedais i wrth fy ngŵr, ‘os yw e’n un coridor hir, dydw i ddim yn mynd’, ond mae gen i fy nrws ffrynt fy hun sy’n gwneud gwahaniaeth mawr i mi. Dydyn ni ddim i mewn ac allan o gartrefi ein gilydd bob amser, ond mae rhywun yno wastad os oes angen.

Enid