Yn ôl i Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Cyfrifoldebau Melin

Ein haddewid i chi

Os byddwch yn dweud am ymddygiad gwrthgymdeithasol yna bydd y tîm Diogelwch Cymunedol yn cadw pethau’n gyfrinachol. Byddwn yn sicrhau eich bod yn gwybod enw’r swyddog sy’n delio â’ch problem a byddwn yn ymateb i faterion nad ydynt yn rhai brys o fewn dau ddiwrnod gwaith a materion brys o fewn un diwrnod gwaith. Os ydych yn dweud am fater troseddol, yna bydd angen tystiolaeth gan yr heddlu er mwyn bwrw ymlaen â’r mater.

Y pethau bydd ein tîm Diogelwch Cymunedol yn delio â nhw

  • Aflonyddu
  • Cam-drin geiriol
  • Bygythiadau (nid rhythu)
  • Ymddygiad meddw
  • Ymddygiad Troseddol, fel defnydd o gyffuriau, delio cyffuriau, neu fandaliaeth (ble mae yna dystiolaeth gan yr heddlu)
  • Digwyddiadau’n seiliedig ar gasineb
Os oes mater o argyfwng a’ch bod chi neu rywun arall mewn perygl, ffoniwch 999 os gwelwch yn dda. Os nad yw’r sefyllfa’n argyfwng, ond mae angen cyngor ac ymyrraeth yr heddlu, ffoniwch 101 os gwelwch yn dda.

Yr hyn na fydd ein tîm Diogelwch Cymunedol yn delio ag e

Mae yna rhai pethau y gallwn help â nhw, a rhai meysydd sy’n gyfrifoldeb i’r Awdurdod Lleol neu’r Heddlu.

Sŵn

Mae gennym weithdrefn newydd ar gyfer ymchwilio i niwsans sŵn. Rhaid i aflonyddu gan sŵn fod yn ormodol ac yn rheolaidd. Er enghraifft, ni fydd un digwyddiad o aflonyddu gan sŵn fel eich cymdogion yn cael barbeciw swnllyd yn cyfri.

Os ydych chi’n dweud am niwsans sŵn yna rydym yn cynghori’n gryf eich bod yn defnyddio The Noise App sy’n recordio’r sŵn i’ch ffôn yn syth.

  1. Os ydych chi’n cael ei effeithio neu eich aflonyddu gan niwsans trwy sŵn gan un o drigolion Melin, y peth cyntaf dylech wneud yw cysylltu â ni trwy ein canolfan gyswllt cwsmeriaid.
  2. Os nad ydych chi wedi gwneud eisoes, bydd ein tîm cyswllt cwsmeriaid yn eich helpu i gysylltu â The Noise App. Byddwn hefyd yn gofyn a ydych chi wedi cysylltu â’r cyngor (adran Iechyd Amgylcheddol) i ddweud am yr aflonyddu gan sŵn.
  3. Bydd ein tîm cyswllt cwsmeriaid yn siarad wedyn a’n tîm diogelwch cymunedol ynglŷn â’ch cwyn.
  4. Bydd aelod o’r tîm diogelwch cymunedol yn cysylltu â chi wedyn i drafod eich pryderon a chytuno ar gynllun gweithredu fel ffordd ymlaen.
  5. Efallai bydd angen i ni gael mwy o dystiolaeth o’ch cwyn am sŵn, gan ddefnyddio The Noise App. O’n hochr ni, byddwn yn sefydlu eich cyfrif ar The Noise App, fel y gallwch chi ddanfon eich recordiadau/tystiolaeth atom ni.
  6. Efallai bydd gofyn i chi gyflwyno recordiadau sŵn am bythefnos, bydd y rhain yn cael eu hystyried gan ein tîm diogelwch cymunedol. Os bydd digwyddiad difrifol yn ystod y pythefnos, byddwn yn ystyried y recordiadau’n gynt.

TCC

Mae angen dweud am unrhyw bryderon ynglŷn â’r camddefnydd o TCC domestig (gan gynnwys clychau drws Ring) wrth SCG - Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae mwy o fanylion ar gael ar wefan SCG.

Os ydych chi’n teimlo eich bod yn cael eich poeni gan gamerâu, mae angen i chi ddweud am hynny wrth yr Heddlu, er mwyn iddyn nhw ymchwilio i gyhuddiadau o aflonyddu. Os bydd yr Heddlu’n cymryd camau, gallwn ymateb gyda’r camau priodol.

Cyffuriau

Mae cyffuriau’n fater troseddol ac mae angen dweud wrth yr Heddlu amdanyn nhw, yn ogystal â Melin.

Oni bai bod yr Heddlu’n cadarnhau bod cyffuriau’n cael eu defnyddio yn neu’n cael eu gwerthu o’r eiddo, yna, fel landlord, dim ond hyn a hyn o gamau medrwn eu cymryd. Os bydd yr Heddlu’n gweithredu gwarant cyffuriau ac yn cael canlyniadau cadarnhaol (canfod cyffuriau yn y cartref) efallai gallwn ystyried cymryd camau cyfreithiol fel gwaharddeb i atal yr ymddygiad rhag digwydd yn y dyfodol neu i atal ymwelwyr rhag ymweld â chyfeiriad person.

Dogs barking

It's natural for dogs to bark. Although, it can be annoying and upsetting when it happens often and for long periods of time, dog barking is only considered Anti-social behaviour if it's persistent.

This means the noise needs to be a frequent, daily occurrence, with continuous periods of barking.

We would suggest you try to speak to your neighbour first. They may not be aware their dog is causing a disturbance (particularly if they are not at home during the day when the dog is barking).

If you don't feel comfortable about approaching your neighbour, or you have tried and the situation hasn't improved, you should contact your local authority's environmental health team.

If you have concerns about the welfare of a pet, you should contact the RSPCA.

Rhythu

Ni allwn gymryd camau i ddelio â rhywun sy’n rhythu, gan ei fod yn anodd profi bod hyn yn cael ei wneud mewn ffordd gas. Rydym yn eich annog chi i ddweud wrth yr Heddlu am unrhyw bryderon os ydych chi’n teimlo eich bod yn cael eich aflonyddu oherwydd y rhythu.

Nid yw’n tîm Diogelwch Cymunedol yn gallu helpu chwaith ag anghydfodau’n codi o:

  • Plant yn chwarae yn y stryd neu’n dadlau.
  • Digwyddiadau pob dydd yn y cartref fel; fflysio toiledau, arogleuon coginio, ysmygu yn eich cartref eich hun, peiriannau golchi, babanod yn llefain neu’n chwarae.
  • Anifeiliaid anwes yn crwydro yn eich gardd.
  • Problemau’n codi o wrthdaro mewn ffyrdd o fyw, fel gwaith sifft.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi