Yn ôl i Eich cartref

Os ydych chi wedi colli eich allweddau neu wedi eich cloi allan

Darlun o allwedd coll

Eich cyfrifoldeb chi yw eich allweddau. Gall fod yn niwsans cael eich cloi allan; os yw hynny’n digwydd, bydd angen i chi dalu am saer cloeon cymwys i’ch cael chi yn ôl i mewn.

Cael hyd i saer cloeon lleol

Gallwch gael hyd i gwmni ag enw da drwy chwilio ar wefan yr MLA (Master Locksmiths Association) am Saer Cloeon Cymeradwy, neu deipio ‘saer clo yn agos ataf i’ i mewn i Google.

Cynllun wrth gefn rhag ofn i chi golli eich allwedd

Mae’n syniad da gadael allwedd sbâr gyda ffrind neu aelod o’r teulu y gallwch ymddiried ynddyn nhw. Gallech hyd yn oed ystyried sêff allweddau – bydd ond angen cofio’r rhif wedyn.

Peidiwch, os gwelwch yn dda, â gadael eich allwedd dan fat y drws neu botyn blodau ger y drws – dyna’r lle cyntaf y mae pobl yn edrych.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi