Yn ôl i Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Beth yw ymddygiad gwrthgymdeithasol?

Amrywiaeth o ymddygiadau sy’n gallu achosi niwsans ac annifyrrwch neu niwed a gofid i berson yw ymddygiad gwrthgymdeithasol (YGG).

Mae gan bawb yr hawl i fwynhau eu cartref yn dawel ac mewn heddwch. Mae hi o fudd i bawb yn y gymuned os yw pobl yn tynnu ymlaen â’i gilydd. Rydym yn disgwyl i’n trigolion fod yn gymdogion ystyrlon, ac i fod yn ymwybodol o sut allai eu gweithredoedd effeithio ar rywun arall.

What is ASB and how does Melin deal with it?

Sut gallwn ni helpu

Mae dulliau ein Tîm Diogelwch Cymunedol yn canolbwyntio ar y person, gan ymgysylltu a gweithio gyda’n trigolion. Rydym yn cydnabod bod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gallu bod yn arwydd o angen heb ei ddiwallu neu drawma.

Mae ein staff wedi eu hyfforddi’n llawn ac yn canolbwyntio digwyddiadau YGG ar ymddygiadau, cryfderau ac anghenion pawb sydd ynghlwm. Rydym yn credu’n gryf mewn gweithio mewn partneriaeth a defnyddio ymyrraeth gynnar a chanolbwyntio’n gytbwys ar addysg, cefnogaeth, atal a chamau cyfreithiol i greu pa fo angen er mwyn rhoi ateb parhaus i drigolion a’u cymunedau.

Mae gennym amrywiaeth o wasanaethau sy’n cael eu cynnig gan bartneriaid yr ydym yn gweithio â nhw i helpu i gael hyd o atebion i nifer o achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol:

Hyfforddiant Gwrthdaro – Cael dweud eich deud, fel eich bod yn teimlo eich bod wedi cael gwrandawiad ac yn cael hyd i atebion.

Cyfryngu - Mae cyfryngwyr yn gwbl ddiduedd; maen nhw’n gwrando ar y ddwy ochr er mwyn cyrraedd cytundeb sy’n dderbyniol i bawb.

Cynghori – Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol fod yn boenus i bawb, gall siarad â pherson proffesiynol sydd wedi ei hyfforddi helpu.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi