Yn ôl i Rhent, arian a biliau

Methu talu’r rhent?

Rhent yw un o’r biliau pwysicaf sydd gennych i’w dalu. Mae’n hanfodol bod holl drigolion yn talu ar amser gan fod hyn yn caniatáu i Melin ofalu am y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu; cynnal a chadw a thrwsio eiddo a darparu gwasanaethau hanfodol i’n trigolion. Mae Melin yn sefydliad ddim-er-elw a rhent yw ein prif ffynhonnell o incwm.

Rydym yn gwybod y gallwch gael anawsterau weithiau wrth dalu rhent am nifer o resymau sydd y tu allan i’ch rheolaeth. Y peth pwysicaf yw eich bod yn cysylltu gyda ni ar unwaith os ydych yn meddwl y bydd yn anodd talu eich rhent. Y cynharaf rydych yn cysylltu â ni, y cyflymaf y gallwn eich helpu.

Os ydych yn cael trafferthion

Nid ydym eisiau i chi ddioddef yn dawel. Mae ein Swyddogion Incwm cyfeillgar wrth law i’ch helpu chi a byddwn yn trin eich achos gyda thosturi a hyder. Gallwn eich helpu i reoli eich rhent a gweithio gyda chi i ganfod ffordd ymlaen os ydych yn cael anhawster i dalu.

Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o gyngor a chymorth mewn perthynas â materion ariannol, gan gynnwys budd-daliadau, biliau ynni a chyflogaeth. Gall tîm Cyngor Melin eich helpu i gael gwell rheolaeth o’ch arian y fwy cyffredinol a hefyd eich helpu gyda’r byd gwaith.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi

Cysylltu

Siaradwch gyda rhywun ym Melin: mae llawer o ffyrdd i gysylltu i adael i ni wybod eich bod yn cael trafferthion, a gweld sut gallwn helpu.

Siarad gyda rhywun