Yn ôl i Rhent, arian a biliau

Terfynu tenantiaeth a rhent dyledus

Darlun o ddrws ffrynt

Os daw amser pan fyddwch eisiau symud o’r cartref rydych yn ei rentu gan Melin, mae ychydig o bethau y bydd angen i chi eu hystyried:

Cyfnod rhybudd

Mae angen i chi roi pedair wythnos o rybudd i ni i derfynu eich tenantiaeth. Mae’r rhybudd yn cychwyn ar y dydd Llun ar ôl i ni dderbyn eich cais. I derfynu eich tenantiaeth, printiwch y ffurflen terfynu tenantiaeth, ei llenwi i mewn, ei llofnodi a’i hanfon atom ni.

Unwaith y byddwch wedi dweud wrthym eich bod eisiau terfynu eich tenantiaeth, bydd ein Swyddog Cynnal a Chadw yn ymweld â chi. Rydym yn gwneud hyn er mwyn rhoi cyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych ynglŷn â symud.

Llenwi’r ffurflen Terfynu Tenantiaeth arlein

Difrod i’r eiddo

Pan symudasoch i mewn, roedd eich cartref mewn cyflwr da, ac rydym yn disgwyl iddo fod felly ar gyfer y trigolion newydd. Bydd eich Swyddog Cynnal a Chadw yn trafod unrhyw beth a all fod angen sylw yn ystod eu hymweliad. Efallai y codir tâl arnoch os canfyddir unrhyw ddifrod.

Ôl-ddyledion rhent

Byddwn yn gwneud popeth y gallwn i’ch helpu chi i glirio unrhyw ôl-ddyledion. Mae ein tîm Cyngor Melin wrth law i drafod unrhyw ddyled rhent sydd gennych.

Fodd bynnag, os na wnewch unrhyw ymdrech i dalu rhent sy’n ddyledus, byddwn ni yn gwneud pob ymdrech i adennill y ddyled. Gall hyn hefyd arwain atom yn rhoi adroddiad anfoddhaol os ceir cais am eirda gan unrhyw landlord yn y dyfodol.

Bydd anwybyddu dyled heb ei thalu yn effeithio ar unrhyw geisiadau am dai cymdeithasol yn y dyfodol.

Gadael yr eiddo cyn y dyddiad a gytunwyd

Os ydych eisiau dychwelyd eich allweddau yn gynnar ac os gallwn ail-osod eich cartref cyn dyddiad olaf eich cyfnod rhybudd, ni fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw rent ar ôl y dyddiad pan fydd y denantiaeth newydd yn cychwyn. Ni fydd hyn yn bosibl bob amser.

Gadael yr eiddo ar ôl y dyddiad a gytunwyd

Os nad ydych yn dychwelyd eich allweddau tan ar ôl y dyddiad a gytunwyd i derfynu eich tenantiaeth, bydd angen i chi dalu rhent wythnos, a bydd hyn yn parhau bob wythnos nes byddwn yn cael yr eiddo yn ôl.

Clirio eitemau o’r eiddo

Pan fyddwch yn gadael yr eiddo, dylid symud ymaith eich holl eiddo a dodrefn.

Yr unig adeg y cewch adael eitemau yw pan dybir y byddai’r preswylydd newydd yn elwa ohonynt, a phan fo hyn wedi ei gytuno gyda ni.

Byddwn ni yn gwaredu unrhyw eitemau a adawir yn yr eiddo, a byddwn yn codi tâl arnoch am symud yr eitemau hyn.

Sut gallwch dderbyn £150

Gall tenantiaid rhagorol ennill £150. Fel tenant sy’n gadael, gallech dderbyn £150 mewn arian yn ôl ar ôl i’r tenantiaeth ddod i ben os byddwch:

  • Yn rhoi rhybudd o bedair wythnos i ni eich bod yn terfynu’r denantiaeth;
  • Yn caniatáu i’n Swyddog Tai ymgymryd ag archwiliad o’r eiddo;
  • Yn caniatáu mynediad i ni i’ch eiddo ar gyfer arolygon perthnasol;
  • Yn gwneud unrhyw waith a nodwyd gan yr arolygwyr cyn i chi adael;
  • Yn talu unrhyw eiddo sy’n ddyledus i ni;
  • Yn dychwelyd eich allweddau i ni erbyn y dyddiad a gytunwyd;
  • Yn sicrhau bod eich cartref, yr ardd, y sied a’r atig yn lân.

Unwaith y byddwn wedi cadarnhau’r uchod i hyd, byddwn yn talu £150 i chi.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi