Yn ôl i Rhent, arian a biliau

Help gyda chostau byw

Darlun o arwyddbost gydag arwydd 'cymorth', 'cyngor' a 'chefnogaeth' arno

Taliad Costau Byw (£900)

Pwy sy’n cael hwn?
Bydd aelwydydd sy’n derbyn budd-daliadau prawf moddion (er enghraifft Credyd Cynhwysol a Chredyd pensiwn) yn derbyn y grant ariannol yma. Mae mwy o wybodaeth am fudd-daliadau cymwys a chyfnodau amser ar gael ar wefan Llywodraeth y DU.

Sut i wneud cais
Nid oes angen gwneud cais am hyn; bydd yn digwydd yn awtomatig.

Pryd gaiff ei dalu?
Caiff y taliad ei wneud mewn tair rhan. Bydd y taliad cyntaf o £301 yn hwyr yn Ebrill neu’n gynnar ym Mai. Bydd yr ail daliad o £300 yn digwydd yn yr hydref. Bydd y taliad olaf o £299 yn digwydd yng ngwanwyn 2024.

Taliad Costau Byw i Bensiynwyr (£150 neu £300)

Pwy sy’n cael hwn?
Bydd aelwydydd sy’n derbyn y Taliad Tanwydd y Gaeaf arferol (h.y. pobl sy’n derbyn pensiwn y wladwriaeth) yn gymwys ar gyfer y taliad yma.

Mae hyn ar ben Taliad Tanwydd y Gaeaf.

Sut i wneud cais
Nid oes angen gwneud cais am hyn; bydd yn digwydd yn awtomatig. Byddwn yn derbyn llythyr yn cadarnhau swm eich taliad (a fydd yn seiliedig ar oedran ac amgylchiadau) yn hwyrach yn y flwyddyn.

Pryd gaiff ei dalu?
Caiff y taliad ei wneud ar yr un pryd â’r Taliad Tanwydd y Gaeaf, yng ngaeaf 2023.

Taliad Costau Byw Anabledd (£150)

Pwy sy’n cael hwn?
Bydd pob unigolyn sy’n derbyn budd-dal cysylltiedig ag anabledd (er enghraifft PIP, DLA, Lwfans Gweini) yn derbyn y taliad hwn o £150. Rhaid eich bod wedi bod yn derbyn y budd-dal yma at 1af Ebrill 2023 i fod yn gymwys.

Sut i wneud cais
Nid oes angen gwneud cais am hyn; bydd yn digwydd yn awtomatig.

Pryd gaiff ei dalu?
Caiff y taliad yma ei wneud rhwng Mehefin a Gorffennaf 2023.

Taliad Tanwydd y Gaeaf

Os cawsoch eich geni ar neu cyn 26ain Medi 1955, gallech dderbyn rhwng £100 a £300 i’ch helpu i dalu eich biliau gwresogi. Gelwir hwn yn Daliad Tanwydd y Gaeaf.

Byddwch yn derbyn eich Taliad Tanwydd y Gaeaf yn awtomatig (nid oes angen i chi wneud cais) os ydych yn gymwys a naill ai:

  • yn derbyn Pensiwn y Wladwriaeth;
  • yn derbyn budd-dal nawdd cymdeithasol arall (ddim Budd-dal Tai, Gostyngiad yn y Dreth Gyngor, Budd-dal Plant neu Gredyd Cynhwysol).

Os nad ydych yn derbyn yr un o’r rhain, yna efallai y bydd angen i chi wneud cais. Mae rhagor o wybodaeth i’w gweld drwy fynd at GOV.UK.

Budd-daliadau Wedi’u Pasbortio

Budd-daliadau wedi’u pasbortio: mae’r rhain yn fudd-daliadau y gallech eu hawlio os ydych eisoes yn hawlio Credyd Cynhwysol(CC),

Credyd Pensiwn, Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), Budd-dal Tai, rhai mathau o Lwfans Ceisio Swydd (JSA) neu Gymhorthdal Incwm.

  • Prydau ysgol am ddim
  • Grantiau mamolaeth
  • Disgownt Cartref Cynnes i helpu gyda chostau gwresogi.
  • Bathodyn Glas
  • Pas bws
  • Pas teithio
  • Cerdyn pas sinema
  • Treth car am ddim neu hanner pris
  • Taliadau cychwyn iach
  • Help gyda thalu eich rhent drwy fudd-dal tai neu Gredyd Cynhwysol
  • Taliad tai dewisol i’ch helpu gyda chostau rhent os oes diffyg rhwng eich budd-dal tai neu Gredyd Cynhwysol a chost eich rhent.
  • Gostyngiad y Dreth Gyngor
  • Gostyngiad y Dreth Gyngor i’r anabl
  • Lwfans Gofalwyr os ydych yn gofalu am rywun am 35 awr yr wythnos neu fwy.

Os nad ydych eisoes yn hawlio Credyd Cynhwysol, neu unrhyw un o’r budd-daliadau eraill, cysylltwch â’r tîm a gallent edrych yn gyflym i weld os ydych yn gymwys.

Mae grantiau costau byw eraill ar gael i bobl sydd ar incwm is ac yn ei chael yn anodd dal dau ben llinyn ynghyd…

Cronfa Cymorth Dewisol (DAF)

Mae’r Gronfa Cymorth Dewisol yn darparu dau fath o grant nad oes angen i chi eu talu’n ôl.

  1. Taliad Cymorth mewn Argyfwng (EAP)
    Grant i helpu gyda chostau hanfodol, megis bwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio mewn argyfwng os ydych:
    • yn profi caledi ariannol eithafol;
    • wedi colli eich swydd;
    • wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf.
    Ni allwch ei ddefnyddio i dalu biliau parhaus na allwch fforddio eu talu.
  2. Taliad Cymorth Unigol (IAP)
    Grant i’ch helpu chi neu rywun rydych yn gofalu amdanynt i fyw yn annibynnol yn eu cartref neu eiddo yr ydych chi neu nhw yn symud iddo.

I weld manylion llawn ac i wneud cais, ewch i wefan llywodraeth Cymru neu cysylltwch â Chyngor Melin.

Darlun o dap gyda dŵr yn llifo

Dŵr Cymru

Mae’r tariff HelpU yn helpu aelwydydd incwm isel drwy roddi cap ar faint sy’n rhaid i chi ei dalu am eich dŵr.

I fod yn gymwys i dderbyn y tariff:

  • rhaid bod y cyflenwad dŵr ar yr aelwyd ar gyfer defnydd domestig yn unig;
  • rhaid i rywun ar yr aelwyd dderbyn o leiaf un budd-dal prawf moddion;
  • rhaid i incwm cyfunol blynyddol yr aelwyd fod ar neu dan lefel benodol.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Dŵr Cymru

You may find these pages helpful