Yn ôl i Gweithio i Melin

Ein diwylliant

Ynglŷn â Melin

Cymdeithas dai yw Melin ac mae’n darparu dros 4,500 o aelwydydd fforddiadwy ar gyfer pobl yn Ne-ddwyrain Cymru, ar draws pum awdurdod lleol.

Rydyn ni’n bodoli er mwyn creu cyfleoedd i bobl a chymunedau ffynnu.

Rydyn ni’n fudiad sy’n meddwl ymlaen, yn ddigon mawr i chi wneud gwahaniaeth ond yn ddigon bach i ddangos gofal. Mae pob un ohonom yn hynod o frwdfrydig dros wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Trwy ymuno â’n tîm o dros 250 o bobl, fe fyddwch chi’n gwybod ar bob adeg fod eich gwaith caled yn gwneud gwahaniaeth positif a gwahaniaeth go iawn.

Coeden Deulu Melin

Cartrefi Melin/Melin Homes yw rhiant y grŵp ac mae’n Gydweithfa ac yn Gymdeithas Budd Cymunedol sy’n gweithredu dan Reolau Elusennol. Mae Melin yn darparu tai fforddiadwy, ac yn eu rheoli, ar draws pum ardal awdurdod lleol.

Cartrefi Melin yw unig ymddiriedolwr cymdeithas o’r enw Henry Burton Almshouse Society a Chartrefi Melin yw’r asiant sy’n rheoli cymdeithas o’r enw Queen Victoria and Albert Almshouse Society.

Mae Candleston Limited yn is-gwmni i Gartrefi Melin, a grëwyd i ddarparu cartrefi cynaliadwy o ansawdd uchel o bob daliadaeth, gan gynnwys cartrefi i’w gwerthu. Caiff unrhyw elw ei fuddsoddi yn ôl i mewn i gymunedau ac i helpu Melin i gyflawni ei amcanion elusennol.

Mae Y Prentis yn gwmni annibynnol, sy’n eiddo ar y cyd i Gartrefi Melin a Chyngor Sir Fynwy. Mae Y Prentis yn rhedeg cynllun cydbrentisiaeth de-ddwyrain Cymru mewn partneriaeth â Construction Skills a’i aelodau yn y diwydiant.

Ein diben

Rydyn ni’n bodoli er mwyn creu cyfleoedd i bobl a chymunedau ffynnu. Arweinir ein diwylliant a’n gwaith gan ein gwerthoedd.

Ein Gweledigaeth

Rydyn ni’n cydweithio i greu…

  • Rhagoriaeth wrth weithredu gyda ffocws ar drigolion
    Heb ein trigolion dydyn ni ddim yn bodoli, ac felly maen nhw wrth galon pob peth a wnawn. Rydyn ni’n gwrando ar yr hyn maen nhw’n ei ddweud ac yn eu helpu i fanteisio i’r eithaf ar Melin.
  • Diwylliant gwych
    Mae ein pobl yn falch o ddweud eu bod yn gweithio i Melin. Rydyn ni’n gofalu am ein staff fel eu bod nhw’n gallu darparu’r gwasanaethau gorau posibl ar gyfer ein cwsmeriaid.
  • Cymunedau sy’n ffynnu
    Rydyn ni’n creu prosiectau a gweithgareddau a fydd yn gwneud gwahaniaeth positif i fywydau pobl, ac yn cefnogi prosiectau a gweithgareddau o’r fath.
  • Incwm o gyfleodd sy’n grymuso ein craidd
    Er ein bod ni’n fudiad nid-er-elw, os ydyn ni’n gwneud elw rydyn ni’n ei fuddsoddi yn ôl i mewn i’r gwasanaethau yr ydyn ni’n eu darparu ar gyfer ein preswylwyr.

Ein Gwerthoedd

  • Gwneud y peth iawn
    Mae’n golygu mwy na dod i’r gwaith. Mae pob un ohonom yn ymdrechu i wneud ein gorau glas dros ein preswylwyr a’n partneriaid. Rydyn ni’n rhoi mwy na chartref. Rydyn ni yma i gefnogi preswylwyr pan fydd ein hangen arnynt. Mae pob un ohonom yn chwarae rhan i sicrhau bod Melin yn lle gwych i fyw ac i weithio.
  • Ffeindio ffordd
    Nid yw’r ateb i gwestiynau pobl yn amlwg bob tro, ond mae ein staff yn griw ymroddgar a dydyn nhw ddim yn ofni chwilio am atebion creadigol.
  • Gwireddu
    ‘Dyw syniad gwych yn werth dim os na fydd pobl yn ei ddefnyddio. Mae ein staff yn llawn brwdfrydedd ynghylch gwireddu syniadau positif.
  • Gwneud gwahaniaeth
    Dyna pam rydyn ni yma! Rydyn ni eisiau i effaith ein gwaith bob-dydd i newid pethau er gwell i’n cydweithwyr, ein preswylwyr a’r mudiadau yr ydyn ni’n gweithio gyda nhw
  • Mwynhau’r siwrne
    Rydyn ni’n fodlon â’n gwaith, ac yn gwybod bod gennym nod cyffredin a’r gefnogaeth y mae ei hangen arnom i’w gyflawni.

Areas of focus

New homes

  • We will deliver new homes for different tenures over the lifetime of this corporate strategy.
  • We work with our strategic partners to ensure that the new homes are driven by the desire for placemaking and the creation of communities.
  • We embrace new technologies in order to build energy efficient homes that generate significant benefit for our residents.

Existing homes

  • We will provide safe, warm and affordable homes.
  • We will invest in our homes to protect our assets for the future.
  • We will work to deliver a maintenance service that meets our residents needs.

Our residents

  • We will support residents to help them live successfully in their homes.
  • We will listen to residents and create opportunities for them to work with us to improve our services.
  • We will work with residents to help make their communities vibrant, inclusive, connected and safe places to live.

Our people

  • We will attract, develop, and retain people with the capabilities and values needed to deliver excellence.
  • We will create an inclusive environment, enabling everyone to thrive and do their best work.
  • We will build resilient teams that allow people to solve problems and innovate by working together and supporting each other

Cymuned a diwylliant

Gwirfoddoli

Rydyn ni’n gadael i’n staff i gael amser allan o’u diwrnod gwaith er mwyn gwirfoddoli gyda’n Tîm Cymunedau, partneriaid lleol ac elusennau. Mae rhoi yn ôl i’r cymunedau lleol yr ydyn ni’n eu gwasanaethu yn ein gwaed.

Cod gwisgo hamddenol

Rydyn ni am i chi deimlo’n gyffyrddus yn eich dillad, ac os yw’n well gennych jîns a chrys T, neu grys a thei, mae hynny i fyny i chi. Rydyn ni’n darparu gwisg swyddogol Melin ar gyfer ein tîm Cynnal a Chadw a rolau sy’n wynebu cwsmeriaid.

Digwyddiadau

Yma yn Melin rydyn ni’n griw cymdeithasol, ac rydyn ni’n cynnal nifer o ddigwyddiadau corfforaethol trwy gydol y flwyddyn ar gyfer ein staff, ac yn rhoi amser i ffwrdd o’r gwaith i chi er mwyn i chi fynd iddynt. Gallwch edrych ymlaen at: farbeciw’r haf, digwyddiad Diolch i staff, digwyddiadau llesiant amrywiol, ein noson gwis enwog a pharti ym mis Rhagfyr.

Mae timau ac adrannau unigol yn trefnu llawer o weithgareddau cymdeithasol trwy gydol y flwyddyn hefyd.

Rydyn ni hefyd yn cynnal digwyddiadau cymunedol i breswylwyr, gan gynnwys ein Parti yn y Parc blynyddol a’n gŵyl lesiant, yn ogystal â llond lle o weithgareddau eraill yr ydyn ni’n eich annog i gymryd rhan ynddynt.

Zest

Zest yw ein menter iechyd a llesiant. Gallwch wylio fideo am un o’n digwyddiadau ar ein sianel YouTube.

Rydyn ni’n cynnal digwyddiad iechyd a llesiant blynyddol, sef ein ‘Zest Fest’. Rydyn ni’n rhoi llawer o bethau am ddim i’n staff – ffrwythau, sesiynau tylino’r corff, Reiki, cyflwyniadau am iechyd, gwiriadau iechyd bach a mwy.

Elusennau

Bob blwyddyn rydyn ni’n enwebu elusen y flwyddyn, ac eleni ein helusen yw Ambiwlans Awyr Cymru. Trwy gydol y flwyddyn rydyn ni’n cynnal digwyddiadau i godi arian, brecwastau elusennol, raffl, sawl cwis a chystadlaethau.

Diolch

Yma yn Melin, rydyn ni’n cydnabod yr adegau hynny pan fydd aelodau o staff yn gwneud mwy na’r disgwyl. Mae ein menter Diolch yn ffordd wych o ddangos eich bod yn gwerthfawrogi aelod arall o staff.

Caiff staff dystysgrif a gwobr o’u dewis; rhodd i’n helusen y flwyddyn, plannu coed yn eu henw neu far o siocled Cymreig.

Grwpiau

Beth bynnag fo’ch diddordeb, dylai fod gennym grŵp sydd o ddiddordeb i chi; canu gyda Zing, iechyd a llesiant gyda Zest, Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, garddio, cerdded a rhedeg.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Rydyn ni’n falch o fod yn fusnes sy’n llawn amrywiaeth, ac yn rhoi ein pobl a’n preswylwyr yn gyntaf. Mae gennym fuddion rhagorol i sicrhau bod gan ein cyflogeion gydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith. Rydyn ni am i chi gael y rhyddid i ddiffinio ffordd o weithio sy’n cefnogi eich bywyd.

Mae gennym grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ymroddgar ac angerddol sy’n cynnwys pedwar aelod o’r bwrdd, ac mae pob un yn hyrwyddo’r grŵp o fewn y sefydliad.

Ni oedd y gymdeithas dai gyntaf yng Nghymru i ennill Gwobr Ansawdd mewn Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Mae Gwobr Ansawdd mewn Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Tai Pawb yn achrediad ac yn fframwaith cynhwysfawr sy’n benodol i Gymru. Mae’r Wobr yn ffordd o adolygu effaith eich sefydliad o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth, a’i gwella, a hynny ar draws meysydd llywodraethu, gwasanaethau, mynediad, cyfranogiad a diwylliant.

Rydyn ni wedi llofnodi Adduned Gweithredu, Nid Geiriau - i ddod â diwedd ar anghydraddoldeb ar sail hil ym maes tai.

Rydyn ni hefyd wedi llofnodi addewid Dim Hiliaeth Cymru sy’n galw ar bob mudiad ac unigolyn i hyrwyddo cytgord a thegwch o ran hil.  Cewch ragor o wybodaeth ar zeroracismwales.co.uk  a gallwch lofnodi’r addewid hefyd.

Mae ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn sero, ac mae tryloywder o ran cyflog yn elfen bwysig sy’n gyrru cydraddoldeb. Gellir gweld ein hymrwymiad i dryloywder cyflog yn adroddiad Tryloywder Cyflog y Prif Swyddog Gweithredol hefyd, ar ein gwefan.

Un o’n targedau corfforaethol yw cynyddu amrywiaeth ar draws ein gweithlu. Nid yw’r gymuned yr ydyn ni’n byw ac yn gweithio ynddi yn cynnwys un rhyw, un hil nac un grŵp oedran penodol, ac mae’r ardaloedd yr ydyn ni’n byw ac yn gweithio ynddynt yn llawn amrywiaeth, gwahaniaethau a nodweddion unigryw. Po fwyaf o leisiau amrywiol sy’n cael eu cynrychioli yn ein gweithlu, y dyfnaf y bydd ein dealltwriaeth o amrywiaeth ehangach o’n preswylwyr a’r cymunedau lle maen nhw’n byw.

Yn rhan o’n hymrwymiad diwylliannol, rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a phob rhan o’r gymuned.