Yn ôl i Symud i Melin

Cymorth

Llun paned o de nesaf at logo Cyngor Melin

Nid darparu cartrefi i bobl yn unig yr ydym yn ei wneud. Pan fyddwch chi’n dod yn un o drigolion Melin, bydd ein timau ymroddedig yn cynnig cymorth gydag amrywiaeth o bethau yn cynnwys, gwaith, arian, a chyngor ar bethau eraill sy’n gysylltiedig â byw yn dda.

Mae trigolion Melin yn elwa o:

  • gefnogaeth i ddychwelyd i'r gwaith a chyngor ar hyfforddiant;
  • help gyda meysydd sy'n gysylltiedig ag arian, o gyllidebu, i sicrhau eich bod yn hawlio'r holl fudd-daliadau y mae gennych hawl i’w derbyn;
  • ymgynghorwyr ynni sy'n gallu cynnig cyngor gyda thaliadau dŵr, Gostyngiadau Cartrefi Cynnes, Cofrestr Gwasanaeth Blaenoriaeth (PSR) ac arbed ynni o amgylch eich cartref;
  • Swyddogion Tenantiaeth sy'n cynnig cymorth i drigolion sy'n cael trafferth gyda'u tenantiaethau;
  • Gwasanaethau cwnsela a chyfryngu.