Yn ôl i Eich cartref

Symud i dŷ gwarchod neu lety gofal ychwanegol

Darlun o gadair freichiau a stôl traed

Os ydych yn teimlo na allwch bellach fyw yn eich cartref, ac os hoffech fyw rhywle lle mae help ychwanegol ar gael, gallwn gynnig dau opsiwn.

Symud i gynllun tai gwarchod

Os oes gennych ddiddordeb mewn symud i lety tai gwarchod ac os ydych yn bodloni’r meini prawf oedran o fod yn 55+, bydd angen i chi wneud cais i gofrestr dai ardal yr awdurdod lleol.

Byw yn ein cynlluniau tai gwarchod neu ofal ychwanegol

Mae gan bob cynllun Reolwr Cynllun, sy’n rheoli’r llety o ddydd i ddydd, gan ddarparu gwasanaethau rheoli tai. Maent yn bwynt cyswllt i drigolion i wneud yn siŵr bod pawb yn iawn, helpu gydag ymholiadau, a byddant yn gweithio gyda’r trigolion i greu lle bywiog, cynhwysol a chroesawgar i fyw.

Systemau mynediad drws

Mae gan ein cynlluniau naill ai system mynediad drws ddiogel, neu system intercom drws, fel bod ein trigolion yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi ac yn gallu rheoli pwy sy’n cael mynediad ganddyn nhw.

Ystafell i westeion

Mae gan bob un o’n cynlluniau lofft i westeion y gall perthnasau ei defnyddio wrth ymweld â thrigolion. Gellir bwcio’r rhain drwy Reolwr y Cynllun.

Cyfleusterau cyffredin

Mae gan ein cynlluniau lolfeydd cyffredin a/neu ardaloedd cyffredin i eistedd i drigolion eu mwynhau, gan gynnwys lle yn yr awyr agored yn y rhan fwyaf o’r cynlluniau. Mae Rheolwyr Cynllun yn gweithio gyda thrigolion a’n Tîm Cymunedau i drefnu digwyddiadau cymdeithasol a lles yn ein cynlluniau.

Mae gan rai o’n cynlluniau faes parcio a lle gwefru / storio ar gyfer sgwteri symudedd.

Mae gan ein cynlluniau gofal ychwanegol bob un o’r pethau uchod, ynghyd a staff gofal ar y safle wedi eu comisiynu gan yr awdurdod lleol. Mae’r timau gofal yn gweithio’n agos gyda Chydgysylltwyr Gofal Ychwanegol Melin yn ein llety i ddiwallu anghenion tai a gofal y trigolion.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth cysylltwch â ni.

Symud i lety gofal ychwanegol

Wrth wneud cais am le yn ein llety gofal ychwanegol, bydd angen i chi gwblhau Asesiad Gofal Cymdeithasol – cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol i drefnu hyn.

Mae pob eiddo yn cael ei ddyrannu yn ôl proses panel dyrannu.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r broses, neu os hoffech ymweld ag un o’n cynlluniau cyn gwneud cais, cysylltwch â ni a bydd ein Tîm Byw’n Annibynnol yn falch o helpu.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi