Yn ôl i Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru)

Beth sy’n newid?

Collage o ddelweddau o gwmpas y cartref gyda'r geiriau "Mae sut rydych yn rhentu yn newid"

Mae sut rydych yn rhentu yn newid

Yn 2016 pasiodd Llywodraeth Cymru Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) a fydd yn cymryd lle deddfwriaeth bresennol ar dai. Ei bwriad yw sefydlu fframwaith cyfreithiol sengl ar gyfer rhentu cymdeithasol a phreifat, gan greu ‘tenantiaeth gymdeithasol unigol’ i Gymru.

Daw’r Ddeddf i rym ar 1af Rhagfyr 2022 a bydd yn dod â diwygiadau sylweddol i gyfraith ac arfer mewn perthynas â thai yng Nghymru.

Mae’r Ddeddf yn rhoi mwy o eglurder ynglŷn â hawliau a chyfrifoldebau ein cwsmeriaid a ni, fel eich landlord, trwy gytundebau ysgrifenedig. Adnabyddir hyn ar hyn o bryd fel cytundeb tenantiaeth. Hefyd, bydd y Ddeddf yn safoni cytundebau tenantiaeth.

Watch our explainer video

Kat and Aaron talk you through what the new Renting Homes (Wales) Act is, and what the changes will mean for our residents.

Dyma rai pwyntiau allweddol i fod yn ymwybodol ohonyn nhw

Bydd Deddf Rhentu Tai yn cael ei chyflwyno i Gymru gyfan ar 15fed Gorffennaf 2022.

  • Bydd Cartrefi Melin yn cael ein hadnabod fel Landlord Cymunedol
  • Bydd Tenantiaid yn cael eu cyfeirio atynt fel Deiliaid Contractau:
    • derbyn contract ysgrifenedig yn nodi eich hawliau a’ch cyfrifoldebau;
    • cynnydd yn y cyfnod rhybudd ‘dim bai’ o ddau i chwe mis;
    • mwy o amddiffyniad rhag cael eich troi allan;
    • gwell hawliau olynu; mae’r rhain yn nodi pwy sydd â’r hawl i barhau i fyw mewn annedd, er enghraifft ar ôl i’r tenant presennol farw;
    • trefniadau mwy hyblyg ar gyfer cyd-ddeiliaid contract, gan ei gwneud yn haws i ychwanegu eraill at gontract meddiannaeth neu eu tynnu oddi arno;
  • Bydd cytundebau tenantiaethau’n newid i fod yn Gontract Meddiannaeth.
  • Bydd yna ddau fath o gontract – diogel a safonol.

Bydd y Ddeddf yn cyfuno nifer o ddeddfau’n ymwneud â thai mewn un fframwaith cyfreithiol.

Bydd y Ddeddf yn symleiddio ac yn gwella’ch hawliau.

Ar 1af Rhagfyr 2022, bydd bob trigolyn yng Nghymru’n symud yn awtomatig i’r cytundeb newydd – Contract Meddiannaeth.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Rydym yn gweithio gyda’n tîm cyfreithiol i ddechrau drafftio’r contractau newydd. Mae gennym chwe mis cyn 15fed Gorffennaf i anfon y contract atoch.

Bydd ein cwsmeriaid newydd yn arwyddo’r contract meddiannaeth newydd o’r dyddiad hwn.

Rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, Tai Cymunedol Cymru a chymdeithasau tai eraill i sicrhau dull cyson a di-dor o gyflawni’r newidiadau.

Byddwn yn eich diweddaru ar ein gwefan ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Os oes gennych unrhyw gwestiwn, cysylltwch â ni a byddwn yn hapus i’ch helpu.