Yn ôl i Cymryd rhan

Eich barn – llunio ein gwasanaethau

Rydym yn gwybod mai chi yw’r bobl orau i ddweud wrthym ni sut rydym yn gwneud, felly rydym yn awyddus bob amser i glywed eich barn.

Melin Voices logo with the strapline Your Voice Matters

Lleisiau Melin

Rydym yn gwybod mai ein cwsmeriaid yw’r bobl orau i’n helpu i lunio a gwella’n gwasanaethau.

Rydych chi’n gwybod pan fyddwn ni’n gwneud pethau’n iawn, a ble gallwn wella.

Mae ein cwsmeriaid i gyd yn dod yn Llais pan fyddan nhw’n dod yn un o drigolion Melin. Rydym yn gwneud yn siŵr bob pawb yn gallu cymryd rhan mewn arolygon.

Os derbyniwch chi neges destun oddi wrthym ni yn gofyn am eich barn, cymerwch amser os gwelwch yn dda i roi eich barn i ni, i’n helpu ni i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.

Os oes gyda chi awgrym neu rywbeth sy’n bwysig i chi, ac fe hoffech chi i ni edrych arno, gallwch ddanfon e-bost at ein grŵp staff Gwrando Gweithredu Dysgu. Gallwch gael mwy o wybodaeth am grŵp Gwrando Gweithredu Dysgu isod.

Os hoffech chi chwarae mwy o ran, gallwch ymuno ag un o’n grwpiau ffocws Lleisiau:

  • Mae’r Grŵp Cymunedol yn cyfarfod gyda’r Tîm Cymunedau i gynllunio ac ariannu digwyddiadau yn y gymdogaeth a rhoi arian grant.
  • Mae’r Grŵp Gwasanaeth Cwsmeriaid yn craffu ar wasanaethau Melin ac yn rhoi argymhellion ar wella’r gwasanaeth, gan geisio barn trigolion a staff. Maen nhw’n cwrdd pan fo angen er mwyn cwblhau adroddiadau.

Gwrando Gweithredu Dysgu

Mae gennym grŵp staff penodol sy’n canolbwyntio ar broblemau ac awgrymiadau trigolion, yn gwrando arnyn nhw ac yn cymryd camau mewn perthynas â nhw pryd bynnag mae hynny’n bosibl.

Gall unrhyw un o’r trigolion ddanfon eu syniadau neu awgrymiadau atom ni i’n helpu i wella’r gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu. Os hoffech chi gymryd rhan mwy gallwch ymuno â’r grŵp Lleisiau Melin sydd â chyllideb benodol y maen nhw’n ei defnyddio i gefnogi trigolion, gan wneud gwahaniaeth i’n cymunedau.

Beth mae Gwrando Gweithredu Dysgu wedi gwneud hyd yn hyn

  • Rydym wedi ei gwneud yn fwy eglur pwy sy’n gyfrifol am rheoli plâu.
  • Rydym wedi gwneud cyfres o fideos gyda’n Tîm Cyswllt Cwsmeriaid sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor fel y gall trigolion drwsio problemau cyffredin eu hunain – beth i’w wneud os nad oes gennych chi ddŵr poeth, sut i roi’r pwysedd yn ôl yn eich bwyler, unigrwydd, pryderon diogelu a mwy.
  • Rydym wedi cyfeirio trigolion at awdurdodau lleol ar gyfer materion graeanu.
  • Rydym wedi gweithio gyda’n partneriaid Awdurdod Lleol i wella biniau ailgylchu ac arwyddion yng Nghasnewydd.

Mae’n ddechrau da, ond rydym eisiau gwneud mwy, a gyda’ch cymorth a’ch cefnogaeth chi, fe allwn ni.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi