Yn ôl i Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru)

Cwestiynau Cyffredin

Bydd y Ddeddf Rhentu Tai (Cymru) yn disodli’r ddeddfwriaeth dai bresennol. Ei bwriad yw pennu un fframwaith cyfreithiol sengl ar gyfer rhentu cymdeithasol a phreifat, gan alluogi ‘un tenantiaeth gymdeithasol’ ar gyfer Cymru.

Daw’r Ddeddf i rym ar 1af Rhagfyr 2022 a bydd yn diwygio cyfraith ac arferion tai yng Nghymru yn arwyddocaol.

Mae’r Ddeddf yn rhoi mwy o eglurder ar hawliau a chyfrifoldebau i’n cwsmeriaid ac i ni fel landlord, drwy gontractau ysgrifenedig. Ar hyn o bryd, gelwir hwn yn gytundeb tenantiaeth. At hyn, bydd y Ddeddf yn safoni cytundebau tenantiaeth.

Pam fo hyn yn digwydd?

  • I’w gwneud yn haws i rentu cartref yng Nghymru.
  • I wella cyflwr tai ar rent yng Nghymru.
  • I wella cysondeb safonau, boed yn byw mewn cartref sy’n cael ei rentu gan landlord cymunedol neu gan landlord preifat.
  • I roi mwy o sicrwydd i bobl sy’n byw mewn cartrefi ar rent ac I landlordiaid.

Pryd allaf ddisgwyl derbyn fy Nghontract Meddiannaeth newydd?

Os daethoch yn denant cyn 1af Rhagfyr 2022, byddwch yn cael eich newid yn awtomatig i Gontract Meddiannaeth newydd.

Byddwch yn derbyn eich Contract Meddiannaeth newydd unrhyw adeg rhwng 1af Rhagfyr 2022 a’r 1af Mehefin 2023.

I denantiaid newydd (a elwir yn ddeiliaid Contract) ar neu ar ôl 1af Rhagfyr 2022, byddwch yn derbyn contract ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod o’r dyddiad meddiannaeth.

Beth mae’r newidiadau yn eu golygu i bobl sy’n achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol?

Os bydd deiliad contract yn torri amodau ymddygiad gwrthgymdeithasol y contract, bydd Cartrefi Melin yn gallu o hyd wneud cais am waharddeb sifil a chychwyn camau llys os oes angen. Gellir hefyd dal deiliad y contract yn gyfrifol am ymddygiad unrhyw un arall sy’n byw yn y cartref neu’n ymweld â’r cartref.

Gall amodau ymddygiad gwrthgymdeithasol y contract gynnwys sŵn gormodol, trais llafar, ymosodiad corfforol. Mae hefyd yn cynnwys camdriniaeth domestig (yn cynnwys camdriniaeth gorfforol, emosiynol a rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol).

Beth am denantiaid ar y cyd: a fydd unrhyw beth yn newid dan y gyfraith newydd?

Bydd y Ddeddf yn ei gwneud yn haws i ychwanegu neu dynnu rhywun oddi ar gyd-gontract, heb yr angen i’r contract ddod i ben i bawb.

Bydd pob deiliad contract yn cael datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth.

Beth mae’r rhan Ffitrwydd i Fod yn Gartref o’r Ddeddf yn ei olygu i mi?

Mae Ffitrwydd i Fod yn Gartref (FFHH) yn golygu bod yn rhaid i bob landlord sicrhau bod eu heiddo yn addas i bobl fyw ynddynt. Rhaid iddynt sicrhau eu bod yn ddiogel, iach ac yn rhydd rhag pethau a allai achosi niwed difrifol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi mwy o fanylion ar y 29 mater a’r amgylchiadau ar gyfer FFHH a gallwch weld y rhaid drwy fynd i’w gwefan.

Ni fydd deiliad contract yn atebol i dalu rhent am unrhyw gyfnod pan dybir nad yw’r eiddo yn ffit, ac ni fydd landlord yn gallu cyflwyno Hysbysiad Landlord, na chymal torri os nad ydynt yn cydymffurfio gyda’r gofynion Ffitrwydd.

Os bydd deiliad contract yn credu nad yw eiddo yn ffit, ond nid ydym yn cytuno, mater i’r llys fyddai yn y pen draw i benderfynu os yw cartref yn anaddas yn seiliedig ar y safonau a nodir yn y Rheoliadau.

Byddai cais i’r llys yn cael ei wneud yn yr ffordd ag yr ydych yn gwneud cais cyflwr gwael.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi