Dathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2025
Mae dydd Llun 3 Chwefror yn nodi dechrau Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2025. Ym Melin rydym yn falch o ddathlu'r effaith anhygoel y mae prentisiaethau yn ei chael ar bobl ifanc, ein cymunedau a'r economi leol. Fel cymdeithas dai sydd wedi ymrwymo i ddarparu cartrefi a gwasanaethau o ansawdd uchel, rydym yn cydnabod gwerth hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol medrus mewn crefftau sy'n hanfodol ar gyfer tai cymdeithasol.
Ysgrifennwyd gan Will
—10 Chwef, 2025

Mae prentisiaethau'n cynnig cyfle gwych i bobl ifanc gael profiad ymarferol tra'n ennill cyflog
a gweithio tuag at gymhwyster cydnabyddedig. Ym Melin rydym yn cyflogi prentisiaid mewn
amrywiaeth o grefftau, o waith plymio a gwaith saer i waith trydanol, gan sicrhau eu bod yn
derbyn y mentora, y gefnogaeth a'r mynediad gorau posibl i gyfleoedd ar ddechrau eu
gyrfaoedd.
Rhannodd Tyler Shorthouse, Prentis Trydanwr ail flwyddyn ym Melin, ei brofiad o ddysgu yn
y swydd:
"Yn ystod fy amser yn yr ysgol, roeddwn bob amser yn mwynhau ymarferoldeb pynciau o
gymharu ag ochr theori pethau. Fe wnes i fwynhau bod yn ymarferol gyda phrosiectau ac
roeddwn bob amser yn llawer mwy brwdfrydig."
I lawer o brentisiaid fel Tyler, mae dysgu trwy wneud yn llawer mwy diddorol a gafaelgar nag
addysg draddodiadol yn yr ystafell ddosbarth. Mae prentisiaethau'n caniatáu i ddysgwyr
ddefnyddio eu sgiliau datrys problemau, eu creadigrwydd, a magu hyder yn y gweithle mewn
ffordd nad yw llwybrau academaidd ffurfiol yn ei wneud.
Un o fanteision mwyaf prentisiaeth yw amrywiaeth. Nid oes dau ddiwrnod yr un fath, ac mae
prentisiaid yn cael gweithio mewn amgylcheddau gwahanol, gan fynd i'r afael â phroblemau
go iawn. Fel y dywedodd Tyler:
Mae pob diwrnod wedi bod yn wahanol, p'un ai’r lle dwi'n gweithio ynddo, neu'r gwaith rwy’n
ei wneud.
Mae amrywiaeth y profiadau yn helpu prentisiaid i feithrin gwytnwch a’r gallu i addasu,
nodweddion allweddol i'r rhai sy'n gweithio yn y sector tai. Gydag arweiniad a chefnogaeth
arbenigol gan ein crefftwyr profiadol, maen nhw’n datblygu gwybodaeth ragorol yn eu dewis
o grefft, sy’n caniatáu iddynt ffynnu yn y gweithle. I Tyler, y cyfle i ddysgu a mynd i'r afael â
heriau newydd yn gyson yw'r hyn sy'n gwneud ei brentisiaeth mor werthfawr:
"Fy hoff ran yw gweithio ar bethau newydd nad ydw i wedi'u gweld nac wedi ymwneud â nhw
eto. Gwahanol fathau o gebl, gosodiadau a lleoedd yw'r hyn sy'n cadw fy niddordeb yn y
swydd ac yn fy helpu i ddeall beth i'w ddisgwyl yn y dyfodol."
Tyler Shorthouse yn rhannu ei farn
Mae Cayden McCarthy, prentis trydanwr arall ym Melin hefyd yn tynnu sylw at sut mae
diwylliant gwaith cadarnhaol Melin yn ychwanegu gwerth at ei brentisiaeth, gan ddweud:
"Mae'n amgylchedd gwaith iach, da lle rwy’n gallu ehangu fy sgiliau a fy ngwybodaeth yn fy
rôl. Rwyf hefyd bob amser yn cael y gefnogaeth a'r cymorth os bydd ei angen arnaf."
At hynny, nid yw buddsoddi mewn prentisiaethau o fudd i'r prentisiaid eu hunain yn unig.
Mae hefyd yn cryfhau ein sector a'r economi leol yn ehangach. Drwy hyfforddi pobl ifanc
mewn crefftau hanfodol, rydym yn sicrhau bod gan gymunedau weithwyr proffesiynol
medrus a all gynnal a gwella ein stoc o dai ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Fel y dywedodd
Cayden:
Mae'r diwydiant trydanol bob amser yn datblygu, felly mae heriau newydd bob amser yn codi fel ynni adnewyddol gwyrdd, storio batris, ceir trydan a phwyntiau gwefru CT.
Mae Melin yn falch iawn o'r gwaith a'r dysgu y mae ein prentisiaid yn ei wneud a'r
gwahaniaeth y maen nhw’n ei wneud bob dydd i fywydau ein trigolion. Mae ein
prentisiaethau yn siapio gweithlu'r dyfodol ac yn sicrhau bod gan Gymru’r sgiliau a'r bobl i
ddiwallu'r angen cynyddol am dai o safon. Wrth i ni symud at uno â Chartrefi Dinas
Casnewydd a dod yn Hedyn, rydym yn edrych ymlaen at barhau i ddarparu cyfleoedd am
brentisiaethau a defnyddio’r cynnydd yn ein maint i gynnig mwy o amrywiaeth a nifer o
gyfleoedd i bobl ifanc yn ein cymunedau.
Yn ystod yr Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau hon, hoffem ddiolch yn fawr i Tyler, Cayden a'n prentisiaid i gyd dros y blynyddoedd am eu cyfraniad anhygoel i helpu cymunedau Melin i ffynnu!