Yn ôl i newyddion

Llwyddiant Platinwm Safon Iechyd Corfforaethol

Ysgrifennwyd gan Fiona

11 Ion, 2022

Aelodau o'n grŵp staff Zest

Rydym unwaith eto wedi derbyn gwobr y Safon Iechyd Corfforaethol Aur a Phlatinwm gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Safon Iechyd Corfforaethol yn rhan o raglen ‘Cymru Iach ar Waith’ Llywodraeth Cymru, a dyma’r nod ansawdd cenedlaethol ar gyfer iechyd a lles yn y gweithle.

Mae gan y Safon Iechyd Corfforaethol bedair lefel o wobrau i gydnabod pob cam o’r gwaith iechyd a lles datblygiadol sy’n cael ei wneud gan gyflogwyr. Platinwm yw’r nod uchaf ar gyfer cyflogwyr sy’n dangos arferion busnes cynaliadwy ac sy’n derbyn eu cyfrifoldebau cymdeithasol fel corfforaethau yn llawn. Mae’r lefel Blatinwm yn cydnabod cyflogwyr cyfrifol sy’n dangos ymrwymiad corfforaethol i gefnogi nid yn unig eu cyflogeion, ond hefyd cyflogwyr eraill a’r gymuned leol.

Mae Cartrefi Melin yn un o’r enghreifftiau gorau rwyf wedi ei gweld o les yn cael ei wreiddio yn niwylliant ac adeiledd y sefydliad. Rhoddodd y cyfarfod gyda’r Gweithgor Platinwm cymaint o wybodaeth a manylder nes ysgogi’r sylw ‘mae hyn wedi ei integreiddio mor dda yn yr hyn yr ydym yn ei wneud, fel nad ydyn ni’n sylweddoli bob amser faint yr ydym yn ei wneud!’

Ava Fine, Asesydd — Cymru Iach ar Waith

“Fy unig bwynt ar gyfer datblygiad yn y dyfodol yw i chi barhau i wneud yr hyn yr ydych yn ei wneud. Da iawn i bob un ohonoch.”

Dangosodd adborth pellach nifer o lwyddiannau ar draws y sefydliad; mae’r diwylliant iechyd a lles yn ddiasiad – un o’r enghreifftiau gorau mae’r asesydd wedi gweld o les yn cael ei integreiddio yn niwylliant ac adeiledd y sefydliad; mae gan uwch staff a Bwrdd Melin ymrwymiad cryf, gweithgor lles cryf sy’n ymateb yn weithgar i awgrymiadau cyflogeion, ac ymrwymiad i gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol.

Dyma beth oedd barn Paul ym Melin

Ychwanegodd Paula Kennedy, Prif Weithredwr Cartrefi Melin: “Mae gwaith caled ein staff wedi talu ar ei ganfed unwaith eto. Rydw i mor falch o bawb ym Melin, mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd arall, ond mae staff wedi dangos eu gwydnwch a sut y gallwn ni, trwy weithio gyda’n gilydd, wneud gwahaniaeth i’n gilydd, ein partneriaid a thrigolion.

“Mae cael gwobrau Aur a Phlatinwm am ein hymrwymiad at iechyd a lles ein staff a sut yr ydym yn gweithredu fel sefydliad yn bwysig iawn i bawb ym Melin.”

Rydym hefyd wedi cael Gwobr Canmoliaeth Covid-19 Cymru Iach ar Waith ar gyfer Ymateb Gorau gan Gwmni’n Cefnogi Staff gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru.

Gallwch wylio fideo byr o’r wobr ar ein sianel YouTube a dysgu mwy trwy ymweld â gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yma.

Yn ôl i newyddion