Yn ôl i newyddion

£1 miliwn mewn 10 wythnos

Dyna faint o arian y mae ein cynghorwyr arian ac ynni wedi ennill i’n trigolion ers ychydig cyn y cyfnod clo.

Ysgrifennwyd gan Sam

08 Meh, 2020

£1 miliwn mewn 10 wythnos
Dyna faint o arian y mae ein cynghorwyr arian ac ynni wedi ennill i’n trigolion ers ychydig cyn y cyfnod clo. Mae eu gwaith wedi gwneud ymdopi mewn cyfnod anodd ychydig yn haws i nifer.

Dywedodd Annie: "Tîm anhygoel. Rydych wedi helpu fy ngŵr a fi yn fwy na’r hyn yr oeddem yn disgwyl, ‘allwn ni ddim diolch digon i chi."

Dywedodd un arall a gafodd help gan y tîm: "Fe wnaethon nhw fy helpu gymaint ar ôl ymddeol i gael yr holl fudd-daliadau yr oedd gen i hawl iddynt."

Rydym yma i chi os ydych chi angen help gyda materion ariannol, danfonwch e-bost at moneyadvice@melinhomes.co.uk

Yn ôl i newyddion