Yn ôl i newyddion

AC Torfaen yn agor gerddi’n swyddogol

Roedd Lynne Neagle AC Torfaen wrth law i agor gardd Ysbyty Tŷ Siriol yn swyddogol. Mae'r digwyddiad yn dilyn llawer o waith caled gan Carol Wheeler, gwirfoddolwr cymunedol, a chafwyd grant prosiect gan ein Tîm Cymunedau i drawsnewid y gofod allanol i gleifion ar y ward dementia.

Ysgrifennwyd gan Sam

23 Maw, 2016

AC Torfaen yn agor gerddi’n swyddogol
Roedd Lynne Neagle AC Torfaen wrth law i agor gardd Ysbyty Tŷ Siriol yn swyddogol. Mae'r digwyddiad yn dilyn llawer o waith caled gan Carol Wheeler, gwirfoddolwr cymunedol, a chafwyd grant prosiect gan ein Tîm Cymunedau i drawsnewid y gofod allanol i gleifion ar y ward dementia.
Rydym yn ddiolchgar i Tom Morris o Morris' of Usk, a dynnodd cannoedd o bunnoedd oddi ar yr anfoneb er mwyn i'r prosiect fynd rhagddo. Rhoddodd Panel y Trigolion hefyd £60 i'r gwirfoddolwyr blannu rhai planhigion lliwgar ychwanegol cyn yr agoriad swyddogol heddiw.
Erbyn hyn, mae cleifion yn y ward dementia yn gallu mynd y tu allan a mwynhau golygfeydd ac arogleuon eu gardd newydd.
Meddai Lynne Neagle AC: “Bydd yr ardd hon yn ategiad ardderchog i fywydau’r cleifion. Unwaith eto, mae Melin a Phanel y Trigolion wrth galon y pethau da sy’n mynd ymlaen yn y gymuned.”

Yn ôl i newyddion