Yn ôl i newyddion

Tai fforddiadwy i bobl hŷn Pilgwenlli

Cwrddon ni â Vistry Partnerships a Chyngor Dinas Casnewydd yn ein prosiect adnewyddu gwerth £7.5 miliwn ym Mhilgwenlli yr wythnos ddiwethaf i weld sut roedd gwaith ar y datblygiad o 47 o fflatiau newydd yn dod yn ei flaen. Mae’r gwaith nawr yn y camau olaf. Mae’r to wedi ei osod ar yr adeilad ffrâm bren ac mae’r gwaith mewnol wedi dechrau.

Ysgrifennwyd gan Paula Kennedy, Marc Thompson, Jane Mudd ar safle Tredegar Court

28 Hyd, 2021

Paula Kennedy, Marc Thompson, Jane Mudd ar safle Tredegar Court
Disgwylir i’r datblygiad gael ei orffen yn y gwanwyn a bydd yn cynnig cartrefi gwarchodol i bobl 55 oed a throsodd, gyda 41 o fflatiau un ystafell wely a chwe fflat dwy ystafell wely. Bydd y safle hefyd yn cynnwys ystafell i’r staff, lolfa gymunedol a gerddi cymunedol dementia-gyfeillgar.

Bydd y fflatiau presennol yn Tredegar Court yn aros a byddan nhw’n rhannu iard gymunedol hefyd, unwaith y bydd y gwaith wedi ei orffen.

Dywedodd ein Prif Weithredwr, Paula Kennedy: "Mae hwn yn gynllun pwysig iawn i ni am mai dyma’n datblygiad mwyaf hyd yn hyn ac mae’n fuddsoddiad sylweddol yn y ddinas. Hoffwn roi clod i’n trigolion sydd wedi parhau i fyw yn Tredegar Court tra bod y gwaith adeiladu’n mynd ymlaen, diolch am eich amynedd, rydym yn ei werthfawrogi.

Paula Kennedy, Marc Thompson, Jane Mudd ac eraill ar safle Tredegar Court
Paula Kennedy, Marc Thompson, Jane Mudd ac eraill ar safle Tredegar Court

"Mae’r gwaith adeiladu wedi symud ymlaen yn dda er gwaethaf y pandemig a heriau gyda chadwyni cyflenwi, a, diolch i’n perthynas gwaith agos gyda Vistry Partnerships a Chyngor Dinas Casnewydd, rydym gam yn agosach at ddarparu’r cartrefi fforddiadwy yma.

"Byddwn yn parhau i weithio gyda’n trigolion a phartneriaid yn y Cyngor i greu cymuned gynhwysol, gyda rhwydwaith cefnogol i bobl hŷn a fydd yn helpu i wrthsefyll unigrwydd."

Paula Kennedy, Chief Executive — Melin Homes

Dywedodd Marc Thompson, Rheolwr Gyfarwyddwr Vistry Partnerships: “Rydym yn hynod o falch o fod yn gweithio gyda Chartrefi Melin ar y safle pwysig yma yng Nghasnewydd. Mae darparu cartrefi newydd o ansawdd uchel i bawb yn rhan allweddol o’r hyn y mae Vistry Partnerships yn gwneud ac rydym yn falch iawn o gyrraedd y garreg filltir yma yn ein prosiect cyntaf gyda Melin. Rydym yn edrych ymlaen ar gwblhau’r datblygiad yn llwyddiannus a gweld y trigolion newydd yn symud i mewn y flwyddyn nesaf.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Casnewydd, wrth ymweld â’r safle: “Roeddwn i’n falch o ymweld â’r safle heddiw i weld y camau ymlaen gan ein partneriaid.

“Mae darparu cartrefi hygyrch a fforddiadwy o ansawdd uchel yn un o’n prif nodau tuag at ddatblygu cymunedau cynaliadwy ac, yn hynny o beth, rydym yn falch ein bod ni wedi gallu rhoi cefnogaeth i’r cynllun trwy ein cronfa grantiau cartrefi cymdeithasol.

“Rydym yn gefnogol iawn o’r bwriad i wneud yn cynllun yn fwy cynhwysol i drigolion, a galla’ i ddim aros i ddod yn ôl y flwyddyn nesaf i weld y safle eto unwaith y bydd wedi ei gwblhau.”

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld