Cychwyn cynhwysol i’r tymor newydd, diolch i ddatblygwr tai lleol
Mae disgyblion a staff o Ysgol Gynradd Llan-ffwyst Fawr yn Y Fenni yn hapus iawn yr hydref yma, diolch i’r datblygwr tai lleol Candleston Homes a Randalls Groundworks Limited. Roedd y prosiect adfywio i drawsnewid yr ardal awyr agored yn bosibl oherwydd bod y ddau gwmni wedi cyfrannu mwy na £7k rhyngddynt. Ni fyddai trawsnewidiad tiroedd yr ysgol wedi bod yn bosibl heb ymrwymiad a chymorth cwmni lleol Randall's a ymgymerodd â’r gwaith, gan dreulio wythnosau dros wyliau’r haf i sicrhau y byddai’r gwaith wedi ei gwblhau erbyn y tymor newydd.
Ysgrifennwyd gan Fiona
—10 Hyd, 2022
Mae’r prosiect yn cysylltu gyda chwricwlwm yr ysgol, ac yn annog plant i archwilio’r awyr agored, gan gynorthwyo eu hiechyd meddwl a’u lles, ynghyd â chreu amgylchedd cynhwysol. Nawr, mae gan y plant lwybr cynhwysol diogel i gwblhau amrywiol weithgareddau chwarae, gan gynnwys eu ‘milltir ddyddiol’.
“Mae gweithio gyda’r ysgol ar y prosiect hwn wedi ein galluogi i roddi prosiectau etifeddiaeth cymunedol fel hwn wrth graidd popeth a wnawn. Mae gweld wynebau’r plant adeg agor y llwybr yn cadarnhau pam rydym yn cefnogi prosiectau fel hyn. Roeddem yn hoffi syniad y plant o agor y llwybr yn swyddogol drwy daenu hadau gwair
Mae hyn yn cysylltu gyda’r prosiect a bydd yn creu hafan naturiol i drychfilod a bywyd gwyllt lleol. Hoffem ddiolch i Randall's am eu cymorth a’u hymrwymiad i’r prosiect – ni allem fod wedi ei wneud heboch chi.
"Fel cwmni, rydym wedi adleoli yn ddiweddar i Lyn Ebwy. Cyn hynny roeddem yn Y Fenni am fwy nag ugain mlynedd, ac rydym yn ystyried ein hunain fel busnes lleol, yn darparu cyfleoedd a gwaith i’r ardal. Felly, pan gysylltodd Candleston â ni mewn perthynas â helpu Ysgol Gynradd Llan-ffwyst, ni wnaethon ni oedi i ddangos ein cefnogaeth.
Howard John, Managing Director of Randalls Groundworks added.Ar ôl ymweld â’r ysgol, roedd yn foddhaus iawn gweld faint y bydd y llwybr newydd yn manteisio’r ysgol, y plant a’r staff.
“Ar ran Randall’s Groundworks, rydym yn gobeithio bod pawb yn hapus gyda’r gwaith a diolch i chi am ein cynnwys ni.
Y llwybr newydd sydd wedi creu amgylchedd cynhwysol i ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Llan-ffwyst
Cafodd disgyblion ar Gyngor yr Ysgol lawer o hwyl, yn bedyddio’r llwybr newydd drwy daenu hadau gwair. Meddai un o’r disgyblion, Oscar:
Mae’r llwybr newydd yn wych, ac mae wir yn gwella’r ysgol. Cawsom hwyl yn chwarae ein rhan ni, a thaenu hadau gwair ar ymylon y llwybr. Bydd yn edrych yn grêt unwaith y bydd wedi tyfu!
Ychwanegodd y Pennaeth, Stewart Davies:
“Mae manteision corfforol a iechyd meddwl y filltir ddyddiol yn anferth o ran lles disgyblion. Bydd y llwybr newydd yn caniatáu i’r plant gwblhau cylched lawn o diroedd Llan-ffwyst, beth bynnag yw’r tywydd. Diolch i chi”.