Ddydd Llun 23 a dydd Mawrth 24 Mehefin bydd gan y Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid lai o gapasiti i gynnig gwasanaethau, oherwydd hyfforddiant. Mae'n ddrwg gennym am yr anghyfleustra. Os oes gennych rywbeth sydd angen ei drwsio ar frys, ffoniwch 0300 1212 345 (a gwasgwch opsiwn 2).
Mae Cartrefi Melin bellach yn Hedyn
Rydym wedi uno â Chartrefi Dinas Casnewydd i greu cymdeithas newydd, a'i henw newydd yw Hedyn.
Gobeithio y gallwch ymuno a ni ar 24 Awst ar gyfer Antur yn y parc.
Ysgrifennwyd gan Sam
—
08 Awst, 2016
Gobeithio y gallwch ymuno a ni ar 24 Awst ar gyfer Antur yn y parc. Mae gennym ddiwrnod llawn hwyl ar eich cyfer, heb anghofio ambell i beth bach am ddim. Byddwn ym Mharc Pont-y-pŵl o 10am-4pm. Rydym yn ymuno â llawer o westeion arbennig i gyflwyno amrywiaeth o weithgareddau cyffrous i oedolion a phlant. O sesiynau blasu Tae Kwon Do gydag Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen i sesiwn cwrdd a chyfarch anifeiliaid o Fferm Greenmeadow, mae yna rywbeth i bawb yn ein digwyddiad Antur yn y Parc! eleni. Byddwn hefyd yn cynnal gwiriadau diogelwch am ddim gyda Cycle Training Wales, felly cofiwch ddod â’ch beic a beiciau eich plant er mwyn eu trin am ddim.