Yn ôl i newyddion

Arolwg o Farn Tenantiaid am Safon Ansawdd Tai Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal gwerthusiad o Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC), y safon cenedlaethol ar gyfer cartrefi sy'n cael eu gosod i denantiaid tai cymdeithasol. Fel rhan o'r gwaith o werthuso'r safon hwn, mae'r arolwg yn edrych ar agweddau tenantiaid tai cymdeithasol, ac fe fydd eu sylwadau yn cyfrannu at SATC yn y dyfodol ar ôl 2020.

Ysgrifennwyd gan Sam

21 Medi, 2020

whqs

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal gwerthusiad o Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC), y safon cenedlaethol ar gyfer cartrefi sy'n cael eu gosod i denantiaid tai cymdeithasol. Fel rhan o'r gwaith o werthuso'r safon hwn, mae'r arolwg yn edrych ar agweddau tenantiaid tai cymdeithasol, ac fe fydd eu sylwadau yn cyfrannu at SATC yn y dyfodol ar ôl 2020.

Mae gwahoddiad i chi gymryd rhan mewn arolwg byr ar-lein i roi eich profiadau o SATC fel tenant yn sector tai cymdeithasol Cymru. Ni ddylai'r arolwg gymryd mwy na 15 munud.

Mae'ch cyfraniad yn gwbl wirfoddol. Mae'ch sylwadau a'ch profiadau yn bwysig i'n helpu i lunio polisi Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Bydd eich atebion yn ddienw.

Os hoffech gymryd rhan, dilynwch y ddolen i'r arolwg.

Dilynwch y ddolen i lawrlwytho'r hysbysiad preifatrwydd a fydd yn nodi sut y bydd eich data yn cael eu ddefnyddio.

Bydd yr arolwg ar agor hyd at 14 Hydref 2020. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr arolwg, cysylltwch â Katy Addison.

Yn ôl i newyddion