Yn ôl i newyddion

Arolwg STAR

Mae arolwg STAR nawr gyda thrigolion, ac eleni mae gwerth £200 o dalebau siopa stryd fawr i’w hennill! Dysgwch mwy am yr arolwg, a sut y gallwch chi ddweud eich dweud.

Ysgrifennwyd gan Valentino

03 Hyd, 2016

Arolwg STAR

Cynigiwch er mwyn ennill gwerth £200 mewn talebau siopa! Y cwbl sydd angen i chi wneud yw cwblhau'r arolwg gan STAR yr ydym eisoes wedi anfon atoch chi. Nid unrhyw fath o arolwg yw hwn, mae’n gyfle i wneud gwahaniaeth i’r ffordd yr ydym yn gwneud pethau yma ym Melin. Rydym ni wir yn gwerthfawrogi’r adborth y cawsom ni gennych chi llynedd ac rydym ni wedi bod yn brysur yn gwneud newidiadau ar sail yr hyn y dywedoch chi wrthym ni. Os oes angen siarad ag unrhyw un am yr arolwg neu os oes cwestiynau gyda chi yna cysylltwch â’r Tîm Cyswllt Cwsmer ar 01495 745910 neu e-bostiwch enquiries@melinhomes.co.uk

Beth yw STAR?

Satisfaction of Tenants and Residents yw STAR. Arolwg cydnabyddedig sydd yn cael ei ddefnyddio ar draws Lloegr a Chymru gan ddarparwyr tai i weld beth y mae trigolion yn meddwl am y gwasanaethau yr ydym yn cynnig.

Oes rhaid cwblhau’r arolwg?

Does dim rhaid, eich dewis chi yw cymryd ran. Os gwnewch, fe gaiff eich manylion eu rhoi i mewn i’r het er mwyn ennill £200 o dalebau siopa stryd fawr mewn digon o amser ar gyfer y Nadolig.

Ydy fy manylion yn ddiogel?

Rydym yn defnyddio cwmni annibynnol i gasglu’r ymatebion gan drigolion. Mae’n gwbl anhysbys a gallwn ni ddim gweld unrhyw ymateb unigol gan drigolion os nad ydych am i ni weld. Os ydych chi am basio’ch sylwadau ymlaen yna fe allwch roi tic yn y blwch ar ddiwedd yr arolwg ac fe allwn eich ateb chi wedyn. Bydd eich holl wybodaeth yn cael ei drin yn unol â Deddf Diogelu Data 1998.

Sut caf i wybod am y canlyniadau?

Bydd y canlyniadau ar gael dros y misoedd nesaf. Bydd y rhain ar gael ar ein gwefan ac yng nghylchlythyr y trigolion. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am yr hyn y byddwn yn gwneud i ymateb i’ch adborth trwy gydol y flwyddyn gyda’n hymrwymiad “Dywedoch chi, gwnaethom ni”.

Yn ôl i newyddion