Yn ôl i newyddion

Blog: Cysgu ar y Stryd gyda Llamau

Cymerodd ein tîm Prentis ran yn ymgyrch Cysgu ar y Stryd Llamau yr wythnos ddiwethaf i gynyddu ymwybyddiaeth o bobl ddigartref a rhai sy’n agored i niwed sy’n byw ar strydoedd Cymru. Dyma glywed gan Amy Williams, o’r tîm Prentis, a ysgrifennodd gofnod blog i ddweud wrthym sut aeth pethau.

Ysgrifennwyd gan Valentino

16 Tach, 2016

Blog: Cysgu ar y Stryd gyda Llamau

Amy Williams, Y Prentis

Ar ddydd Iau 10fed Tachwedd, cymerodd ein tîm Prentis ran yn Ymgyrch Cysgu ar y Stryd Llamau, digwyddiad blynyddol a gynhelir i gynyddu ymwybyddiaeth o sefyllfa’r sawl sy’n gorfod cysgu ar ein strydoedd bob dydd. Cododd Llamau arian hefyd, sydd mawr ei angen i gynorthwyo pobl ifanc a menywod sy’n agored i niwed yng Nghymru.

Doedd yr un ohonom erioed wedi cysgu ar y stryd o’r blaen ac felly nid oedd gennym syniad beth i’w ddisgwyl. Gan wisgo ‘chydig o haenau o ddillad a dillad glaw, aethom â’n sachau cysgu gyda ni a dim llawer o ddim byd arall!

Cyrhaeddom am 7pm i gofrestru, a arweiniodd at ddigwyddiad lle cawsom ein serenadu gan gôr Llamau, gyda’r gwestai arbennig Wynne Evans (sy’n enwog am hysbysebion Go Compare!). Yna dechreuodd yr her. Cyflwynwyd ein pecyn adeiladu lloches syml i ni, yn cynnwys cardbord, tarpwlin a thâp, a rhoddwyd awr i ni adeiladu rhywbeth a fyddai’n gartref i ni am y noson. Y cyfarwyddiadau oedd creu rhywbeth a fyddai’n ffitio’r 5 aelod yn y tîm a’n sachau cysgu, ac a fyddai’n ein hamddiffyn rhag yr elfennau. Roedd yr ymarfer yn brofiad meithrin tîm gwych, ond dangosodd i ni pa mor anodd oedd adeiladu eich cartref am y noson bob dydd, heb lawer o adnoddau wrth law. Roeddem yn ffodus o gael bwyd ar gyfer y noson, ond fe’n gwnaeth yn ymwybodol iawn nad dyma brofiad llawer o bobl ddigartref yng Nghymru.

Erbyn 2am roedd pawb yn y llochesi yn ceisio cysgu. Roedd yn brofiad rhyfedd cysgu yn yr awyr agored heb furiau i’ch amddiffyn rhag y gwynt a’r oerni. Roeddem yn ffodus nad oedd yn glawio ac roeddem yn gwybod ein bod yn ddiogel mewn man amgaeedig, ond nid yw hyn yn wir bob amser i bobl ddigartref sy’n gorfod dioddef pob tywydd a pheryglon dyddiol cysgu ar y stryd. Cafwyd noson anodd, anghyfforddus a hir, heb lawer o gwsg, ond arhosodd y tîm yn galonnog. Ar ôl cael ein deffro am hanner awr wedi pump, aethom adref; yr unig beth ar ein meddyliau oedd cael mynd i’n gwelyau cynnes, clud.

Roedd cysgu ar y stryd yn gwneud i ni sylweddoli pa mor ffodus ydym o gael to uwch ein pennau a phryd bwyd cynnes fwy nag unwaith y dydd. Er ei fod yn anodd, mi fyddem yn ei wneud eto, ac rydym eisiau parhau i gefnogi Llamau bob blwyddyn trwy gymryd rhan yn yr Ymgyrch Fawr!

Yn ôl i newyddion