Yn ôl i newyddion

Budd-daliadau a lwfansau dros y Nadolig

Pryd bydd budd-daliadau’r Nadolig yn cael eu talu?

Ysgrifennwyd gan Marcus

20 Rhag, 2016

Money Advice logo
Pan ddaw hi’n fater o arian gall Rhagfyr fod yn fis gwirioneddol anodd. Cymerwch gip ar ein hawgrymiadau a’n cyngor i sicrhau bod cyllido dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd mor rhwydd a di-straen ag sydd yn bosibl.

Pryd bydd budd-daliadau’r Nadolig yn cael eu talu?

Mae’r Nadolig ar ddydd Sul eleni sy’n golygu bod dydd Llun 26 Rhagfyr a dydd Mawrth 27 Rhagfyr yn wyliau banc.

Fel arfer, cewch eich talu ar y diwrnod gwaith olaf cyn unrhyw ŵyl y banc. Os yw eich Budd-dal Plant yn daladwy ar 26 Rhagfyr fe gewch eich talu ar 22 Rhagfyr. Ac os yw’n ddyledus i chi ar 27 Rhagfyr fe gewch eich talu ar 23 Rhagfyr.

Bydd Credyd Treth yn cael ei dalu mewn ffordd ychydig yn wahanol: os ydych yn derbyn y rhain rhwng 26-28 Rhagfyr, caiff pob taliad ei wneud ar 23 Rhagfyr yn lle.

Os ydych yn Lloegr, yr Alban a Chymru ac mae disgwyl i chi dderbyn credyd treth ar 29 Rhagfyr 2016, cewch eich talu ar 28 Rhagfyr 2016.

Yn ôl i newyddion