Byddwch yn wyliadwrus o fenthycwyr arian didrwydded
Benthycwyr sydd yn benthyg arian yn anghyfreithlon sy’n aml yn targedu teuluoedd ar incwm isel sydd mewn sefyllfa enbyd.
Ysgrifennwyd gan Marcus
—10 Ion, 2017
![](/assets/articles/_content800/may-money-advice.png)
Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) yn cadw manylion pob benthyciwr trwyddedig, yn ogystal â phawb sydd wedi gwneud cais am drwydded neu sydd wedi cael trwydded wedi ei diddymu neu atal.
Ewch i’r Gofrestr Credyd i Ddefnyddwyr <https://www.fca.org.uk/firms/financial-services-register> i weld a yw benthyciwr wedi cofrestru.
Peidiwch â throi i ffwrdd - dewch i siarad â ni. Does dim angen poeni
Mae ein Tîm Cyngor Ariannol yn gofyn i chi i beidio â gadael i bryderon dros arian i bwyso arnoch chi, maen nhw yma i siarad ag i helpu mewn unrhyw ffordd y gallan nhw. Mae’r tîm yn falch o fod yn gyfeillgar ac yn hawdd mynd atyn nhw - maen nhw am i chi wybod nad ydyn nhw’n cnoi! Fyddan nhw ddim yn feirniadol, man nhw yma i helpu. Mae’r tîm i gyd yn gymwysedig a llynedd fe roddon nhw £1.4miliwn yn ôl i bocedi trigolion - moneyadvice@melinhomes.co.uk neu ffoniwch 01495 745910.