Yn ôl i newyddion

Cael trefn ar nwy a thrydan

Rydym yn helpu i ledaenu’r neges; Mesuryddion Deallus yw’r genhedlaeth newydd o fesuryddion nwy a thrydan a fydd yn cymryd lle’r mesuryddion traddodiadol yn ein cartrefi. Caiff pob cartref yn Lloegr, yr Alban a Chymru gynnig mesurydd deallus, am ddim, rhwng nawr a 2020.

Ysgrifennwyd gan Valentino

10 Hyd, 2016

Cael trefn ar nwy a thrydan

Rydym yn helpu i ledaenu’r neges; Mesuryddion Deallus yw’r genhedlaeth newydd o fesuryddion nwy a thrydan a fydd yn cymryd lle’r mesuryddion traddodiadol yn ein cartrefi. Caiff pob cartref yn Lloegr, yr Alban a Chymru gynnig mesurydd deallus, am ddim, rhwng nawr a 2020.

Bydd mesuryddion deallus yn caniatáu i chi weld yn union faint o ynni yr ydych chi’n defnyddio, wrth i chi ei ddefnyddio, a beth yw’r gost. Mae hyn yn golygu y bydd eich biliau yn gywir ac nid yn cael eu hamcangyfrif. Mae cyflenwyr ynni yn gosod mesuryddion deallus ar gyfer eu cwsmeriaid ar adegau gwahanol. Mae gwybod pa bryd byddwch yn gymwys i gael mesurydd deallus yn gallu dibynnu ar sawl ffactor, fel oedran eich mesurydd presennol a’r math o gartref yr ydych yn byw ynddo. Bydd eich cyflenwr yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad pan fyddan nhw’n barod i osod eich un chi.

Smart Energy GB yw llais y broses o gyflwyno mesuryddion deallus. I’n cynorthwyo ni a Smart Energy GB gallwch gwblhau arolwg byr ar-lein.

Os hoffech sgwrs ynglŷn â’r ffyrdd y gallwch chi arbed ynni ac arian, cysylltwch â ni heddiw a gallwn roi cyngor dros y ffôn neu drefnu i gynghorydd ynni ddod i siarad â chi. Am fanylion pellach neu i siarad â chynghorydd ynni, galwch ni ar 01495 745910 neu danfonwch e-bost.

Yn ôl i newyddion