Yn ôl i newyddion

Cartrefi Melin yn agor datblygiadau newydd ym Mhont-y-pŵl yn swyddogol gyda Gweinidog Llywodraeth Cymru

Cynhaliodd Cartrefi Melin ddigwyddiad i ddathlu agor eu datblygiadau newydd ym Mhont-y-pŵl yr wythnos yma

Ysgrifennwyd gan Marcus

23 Hyd, 2018

trosnant house
Cynhaliodd Cartrefi Melin ddigwyddiad i ddathlu agor eu datblygiadau newydd ym Mhont-y-pŵl yr wythnos yma. Cafodd Tŷ Trosnant a Thŷ’r Crynwyr eu hagor yn swyddogol gan Weinidog Llywodraeth Cymru dros Dai, Rebecca Evans AC a Phrif Weithredwr Melin, Paula Kennedy ac Aelod Gweithredol Torfaen dros Dai, y Cyng. David Daniels ac Aelod Gweithredol Torfaen dros Fusnes, Twristiaeth, Hamdden a Diwylliant, y Cyng. Alan Jones.

Datblygodd Melin Dŷ Trosnant a Thŷ’r Crynwyr ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Torfaen. Ariannwyd y datblygiad gan Lywodraeth Cymru gan ddefnyddio £567,597 o’i arian Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. Mae’r datblygiadau’n cynnwys 10 fflat newydd i’w rhentu ac yn dod â defnydd i adeiladau yng nghanol Pont-y-pŵl, gan roi hwb i adfywio’r economi leol.

Cafodd y datblygiadau gwerth £1.2 miliwn eu hadeiladu gan CJ Construction a’u cwblhau ym Medi 2018.

Dywedodd Prif Weithredwr Melin, Paula Kennedy; “Mae’r cartrefi yma’n rhoi pleser arbennig i ni gan eu bod nhw’n fwy nag adeiladau. Maen nhw’n cynrychioli adfywiad dau adeilad oedd mewn cyflwr go wael a hefyd canol tref Pont-y-pŵl. Partneriaeth yw hyn gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Torfaen i greu cartrefi y mae eu hangen yn fawr ac rydym yn gobeithio y bydd tipyn mwy i ddod.”

Dywedodd Rebecca Evans; “Rydym wedi ymrwymo i gydweithio i greu tai mwy fforddiadwy ac i gefnogi adfywio canol trefi; mae’r datblygiadau ardderchog yma’n sy’n rhoi defnydd newydd i adeiladau yn dangos sut allwn ni wneud gwahaniaeth gyda’i gilydd.”

Yn ôl i newyddion