Yn ôl i newyddion

Cartrefi Melin yn camu i'r adwy i helpu i ddiogelu dyfodol Canolfan Gofalwyr Torfaen

Mae dyfodol Canolfan Gofalwyr Torfaen yn fwy diogel diolch i gytundeb ar y cyd gyda Chartrefi Melin.

Ysgrifennwyd gan Sam

22 Rhag, 2015

Dave Cook meets with the Carers Centre representatives.

Mae dyfodol Canolfan Gofalwyr Torfaen yn fwy diogel diolch i gytundeb ar y cyd gyda Chartrefi Melin.

Mae'r Ganolfan Gofalwyr sydd wedi ei lleoli ym Mhont-y-pŵl yn darparu cymorth emosiynol yn ogystal â gwybodaeth am fudd-daliadau, gofal seibiant, trafnidiaeth a gofal personol, ond ar hyn o bryd gwirfoddolwyr yn unig sy'n ei rhedeg. Fel rhan o'r cytundeb ar y cyd bydd Melin nawr yn penodi ac yn gweithredu fel rheolwr llinell i weithiwr datblygu fydd yn cefnogi'r bwrdd rheoli'r Ganolfan. Bydd swydd y gweithiwr datblygu yn cael ei ariannu gan Sefydliad Waterloo a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.Torfaen_Carers_Centre_logo.png

Mae'r Ganolfan ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 10am-3pm ac yn croesawu unrhyw ofalwyr sy'n chwilio am gymorth a chefnogaeth. Mae hefyd yn darparu cartref i Hafal a Bipolar UK ac mae'n cynnal rhaglenni megis y Grŵp Cymorth ar gyfer Dementia. Cafodd y ganolfan ei sefydlu yn 2005 ac mae'r sylfaenydd a'r Bwrdd wedi sicrhau bod eu gwasanaethau gwerthfawr wedi bod ar gael ers hynny, ond maent yn gobeithio y bydd gweithio gyda Melin yn diogelu dyfodol y ganolfan.

Yn ôl y Cyfrifiad Cenedlaethol (201) mae 11,917 o drigolion yn Nhorfaen yn darparu gofal di-dâl. Dangosodd astudiaeth gan Brifysgol Leeds mai gwerth economaidd gofalwr di-dâl yw £18,500 y flwyddyn. Ffaith sy'n llai adnabyddus yw bod un o bob pump o ofalwyr yn rhoi'r gorau i weithio er mwyn gofalu am aelod o'r teulu, ac mae gofalwyr ddwywaith yn fwy tebygol o ddioddef o iechyd gwael o gymharu â'r rheini nad ydynt yn darparu gofal.

Meddai Mark Gardner, Prif Weithredwr Cartrefi Melin: "Rydym yn falch o allu gweithio gyda'r gwirfoddolwyr sy'n darparu gwasanaeth mor wych i ofalwyr yn Nhorfaen. Bydd diogelu'r Ganolfan Gofalwyr nid yn unig o fudd i drigolion Melin ond hefyd yn cefnogi iechyd, gofal cymdeithasol a lles y gymuned ehangach. "


Yn ôl i newyddion